Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw ymgynghorydd
statudol y Llywodraeth ar faterion yn ymwneud â chynnal harddwch
naturiol, bywyd gwyllt a chyfleoedd hamddena awyr agored ar draws
Cymru,ac ar hyd ei glannau.
Rydym yn hybu amgylchedd, tirweddau a dyfroedd morol Cymru fel
ffynonellau o gyfoeth naturiol a diwylliannol, fel sail i
weithgaredd economaidd a chymdeithasol ac fel lleoedd ar gyfer
dysgu a hamddena. Ein hamcan yw gwneud yr amgylchedd yn rhan
werthfawr o fywyd pawb sy’n byw yng Nghymru.