Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Cynghorion cyfweliad

Gwnewch yn siŵr fod y Cyngor Cefn Gwlad yn eich cofio chi – am y rhesymau cywir.

Bydd y Cyngor fel arfer yn defnyddio cyfweliadau sydd wedi eu seilio ar gymwyseddau (neu ymddygiad). Y syniad y tu cefn i hyn yw mai ymddygiad y gorffennol yw’r arwydd cliriaf o ymddygiad y dyfodol.

Mae yna strwythur i gyfweliadau sy’n holi am gymwyseddau, gyda chwestiynau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r math o alluoedd sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Bydd ein panel cyfweld yn chwilio am wybodaeth am eich ymddygiad yn y gorffennol mewn amgylchiadau arbennig.

Bydd cyfweliadau’r Cyngor Cefn Gwlad yn canolbwyntio ar y cymwyseddau sydd bwysicaf ar gyfer swydd benodol. Efallai y bydd angen i chi hefyd ddangos gwybodaeth ddofn mewn maes arbennig.

Paratoi

  • Gwnewch eich gwaith cartref. Treuliwch beth amser yn edrych ar ein gwefan. Dysgwch gymaint ag y gallwch am y Cyngor Cefn Gwlad, yn ogystal ag am y swydd benodol yr ydych yn cynnig amdani.
  • Byddwch yn cael eich asesu ynghylch cymwyseddau penodol – bydd rhestr o’r rheiny yn y disgrifiad swydd. Ceisiwch ddyfalu pa gwestiynau sy’n debyg o gael eu gofyn ac ymarfer eich atebion.
  • Gan y bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar esiamplau penodol o’r gorffennol, ceisiwch feddwl am rai y gallech eu defnyddio.
    • Ystyriwch eich rôl yn y sefyllfa honno.
    • Oedd yna unrhyw rwystrau neu beryglon?
    • Sut wnaethoch chi eu goresgyn?
    • A fyddech chi wedi gweithredu’n wahanol mewn unrhyw ffordd
    • Ydych chi wedi dysgu rhywbeth o’r profiad?
  • Efallai na chewch yr union gwestiynau hyn yn ystod y cyfweliad ond byddan nhw wedi eich paratoi ar gyfer cwestiynau posib ac wedi eich annog i feddwl am y meysydd hyn.
  • Meddyliwch am atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin mewn cyfweliadau, er enghraifft: Pam ydych chi eisiau gweithio i ni? Pam ddylen ni eich cyflogi chi yn hytrach nag ymgeiswyr eraill? Pa rinweddau neu dalentau allwch chi eu cynnig i’r swydd? Byddwch yn barod i ddweud mewn dwy frawddeg pam y dylech chi gael y swydd, yn fwy na rhywun arall gyda chymwysterau tebyg. Meddyliwch am gynnig enghreifftiau pam fod eich sgiliau a’ch profiad chi yn gweddu.
  • Ail-ddarllenwch eich ffurflen gais, er mwyn bod yn gwbl gyfarwydd â’r cynnwys.

Y diwrnod cyn y Cyfweliad

Trefnwch eich siwrnai a’r amser yn ofalus er mwyn cyrraedd ychydig funudau’n gynnar – ond heb fod yn rhy gynnar chwaith. Gwnewch yn siŵr o’r cyfeiriad a chyfleusterau parcio cyn dyddiad y cyfweliad. Caniatewch amser ar gyfer oedi.

Os ydych yn dod â phapurau gyda chi, rhowch nhw mewn câs neu ffeil addas, fel y gallwch ddod o hyd i’r rhai perthnasol yn hawdd.

Y Cyfweliad

  • Dim ond un cyfle sydd yna i greu’r argraff gyntaf. Edrychwch a swniwch yn dda.
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn siarad llawer gormod mewn cyfweliad. Cadwch bethau’n syml. Peidiwch â gadael i nerfusrwydd wneud ichi glebran. Yr atebion gorau yw rhai byr, addas, sy’n cyflwyno gwybodaeth bositif.
  • Peidiwch â meddiannu’r sgwrs, byddwch yn dysgu mwy trwy adael i’r holwr siarad.
  • Os ydych wedi cyrraedd y cyfweliad, mae’n rhaid ein bod ni’n credu y gallwch wneud y swydd, felly peidiwch â rhoi rhesymau pam na ddylen ni eich cyflogi. Peidiwch â bod yn negyddol amdanoch chi eich hun – na chyflogwyr blaenorol.
  • Allwch chi ddim osgoi cwestiynau anodd. Weithiau, byddan nhw’n anelu yn syth am eich man gwan, yn holi am broblemau neu fethiannau yn eich gyrfa. Ceisiwch ddefnyddio yr atebion byr yr ydych wedi eu paratoi ac ymatebwch yn ffyddiog.
  • Rydym yn deall fod cyfweliad yn achlysur ffug a llawn nerfusrwydd. Byddwn yn cadw hynny mewn cof.
  • Byddwch yn frwdfrydig a gweld y cyfweliad yn gyfle i werthu eich hunan a’ch sgiliau. Does dim rhaid iddo fod yn faich.
  • Os ydych yn gallu mynd yn ddryslyd mewn cyfweliad, mae croeso ichi ddefnyddio nodiadau bach i’ch atgoffa am wybodaeth allweddol.
Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Mehefin 2013| Nesaf
LMMIGSS
     12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Recriwtio)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen