Cyfarfodydd ac Aelodau'r Cyngor
Mae aelodau Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn atebol,
yn unigol ac ar y cyd, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ddarparu
arweiniad effeithiol i CCGC, sefydlu ei bolisïau, sicrhau ei fod yn
cyrraedd ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, polisi ac
ariannol sydd wedi’i osod ar ei gyfer.
Mae’r aelodau’n atebol i Gynulliad Cenedaethol Cymru, defnyddwyr
y gwasanaethau, dinasyddion unigol a staff am weithgareddau’r
Cyngor, ei stiwardiaeth o gronfeydd cyhoeddus, ei lwyddiant i
gyrraedd y targedau perfformiad a’r amcanion allweddol.
- Mr Morgan Parry, Cadeirydd y Cyngor
Aelodau’r Cyngor:
- Dr Dyfed Elis-Gruffydd
- Mr Richard Jarvis
- Dr Ieuan Joyce
- Mr Patrick O’Reilly, MBE
- Mr Alan Underwood
- Mr Rod Williams
- Dr Susan Gubbay
- Mr Geraint George
- Mr Andy Middleton
- Ms Lynnette Thomas
Sylwer: mae croeso i'r cyhoedd fynychu rhan o'r sesiwn agored,
neu'r sesiwn agored i gyd, fel arsyllwyr. Bras amcan yn unig o'r
amseroedd a geir. Gellir cael copïau o bapurau'r sesiwn agored gan
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Cefn Gwlad trwy ffonio 01248 385629 neu
drwy anfon e-bost at b.roberts@ccw.gov.uk.
Rydym yn derbyn cyfraniadau ysgrifenedig yn ymwneud ag eitemau'r
agenda. Fe fydd copïau o'r rhain yn cael eu hanfon at aelodau'r
Cyngor, cyn belled na fyddant yn hirach na un ochr A4 a chyn belled
â'n bod yn eu derbyn cyn diwedd y Dydd Iau cyn i'r cyfarfodydd gael
eu cynnal.
Sylwer: fe fydd y cyfraniadau hyn yn rhan o gofnod cyhoeddus y
cyfarfod, ac o'r herwydd gellir anfon copïau ohonynt at
eraill.
Ysgrifennwch at Y Swyddfa Ganolog, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Maes y
Ffynnon, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2DW.