Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (RhGA)
Fe ddaeth RhGA i rym ar 1 Ionawr 2005 i
gyd-fynd â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Maen nhw’n rhoi hawl i’r
cyhoedd i wneud cais am gael gweld y wybodaeth amgylcheddol sydd
gan awdurdodau cyhoeddus.
Nid oes rhaid i gais am wybodaeth fod yn ysgrifenedig a does dim
rhaid dyfynnu’r rheoliadau. Er hynny, fe fydd yn help pe baech yn
ysgrifennu atom yn egluro union natur y wybodaeth yr ydych ei
hangen.
Mae diffiniad ‘gwybodaeth amgylcheddol’ yn eang ac yn cynnwys:
- Cyflwr elfennau o’r amgylchedd, fel dwr, pridd, tir,
anifeiliaid.
- Rhyddhau llygredd a.y.y.b., swn, ynni, ymbelydredd, gwastraff
ac elfennau tebyg.
- Mesurau a gweithgareddau fel polisïau, cynlluniau a chytundebau
sy’n effeithio neu’n gallu effeithio ar elfennau o’r
amgylchedd.
- Adroddiadau a dadansoddiadau cost a budd ac
economaidd.
- Cyflwr iechyd a diogelwch dynol a difwyniad o’r cadwyn
fwyd.
- Safleoedd diwylliannol ac adeiladau (y ffordd y gall cyflwr
elfennau o’r amgylchedd effeithio arnyn nhw).
Amseru
Mae gan CCGC 20 diwrnod i ymateb i’ch cais RhGA.
Eglurhad
Ambell dro fe fydd cais yn aneglur neu’n rhy gyffredinol. Byddwn
felly’n cysylltu â’r sawl sy’n gwneud cais yn gofyn am eglurhad.
Byddwn yn stopio’r cloc ymateb o 20 diwrnod tan ein bod yn derbyn
eglurhad derbyniol.
Cost
Ni fyddwn yn codi tâl pe bawn ni’n gallu delio â’ch cais o fewn
2.5 diwrnod (£450 cost staff).
(Gweler polisi codi tâl CCGC)
Rheoliadau Gwybodaeth amgylcheddol
Ffurflen gais
Danfonwch eich cais i:
Grŵp Partneriaeth, Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
Maes Y Ffynnon, Penrhosgarnedd,
Bangor,
Gwynedd
LL57 2DW.
ATI@ccw.gov.uk
01248 385532
Adnoddau pellach...
Ffurflen
gais
Defnyddiwch y ffurflen yma i
ofyn am wybodaeth
ganddom
Safeloedd eraill...
Mae'r dogfen yma ar gael yn uniaith Saesneg ar y funud:
Deddfwriaeth
RhGA
Darganfyddwch mwy am Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol