Beth sy’n cael ein cefnogaeth
ariannol
Mae gan y Cyngor Cefn Gwlad bedair
gategori ar gyfer grantiau, a’r rheiny’n adlewyrchu rhychwant eang
ein gwaith. Dyma amlinelliad ohonyn nhw:
Bywyd gwyllt, Daeareg a Thirwedd
Amcan cyffredinol y grant yw hybu a symbylu gweithredu
cadarnhaol ar gyfer bywyd gwyllt, daeareg a thirwedd. Mae ein
cefnogaeth dan y categori yma’n eang ac amrywiol, a’n bwriad yw
ceisio galluogi i brosiectau gael eu cyflawni ym mhob grŵp
tacsonomig, yn ogystal â gweithredu geo-amrywiaeth. Mae ein
blaenoriaethau ar gyfer ‘Tirwedd’ yn ymwneud â’r angen i
integreiddio ein gwybodaeth ofodol bresennol eang gyda pholisi a
phrosesau sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel Genedlaethol,
Ranbarthol a Lleol.
Darparu a Hybu Mynediad, Hamdden a’u Manteision
Amcan y grant yw cynyddu cymryd rhan mewn hamdden yn yr awyr
agored drwy gysylltu’r ddarpariaeth o gyfleoedd â’r galw amdanynt,
ac felly gwrdd yn y ffordd orau ag anghenion buddianwyr /
defnyddwyr lleol am hamdden a mynediad. Fe fydd manteision o ran
iechyd a’r amrywiaeth o ddefnyddwyr cefn gwlad yn ystyriaethau cryf
wrth inni flaenoriaethu’r prosiectau.
Adeiladu Cynhwysedd mewn Sefydliadau Eraill
Mae’r categori grant “Adeiladu Cynhwysedd” yn cefnogi rhaglenni
gwaith mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi. Fe fydd y Cyngor Cefn
Gwlad yn rhoi blaenoriaeth i’r rhwydweithiau neu’r partneriaethau
hynny sy’n cynorthwyo’r Cyngor i ymgysylltu â fframweithiau polisi
cenedlaethol, ac yn cynorthwyo i osod blaenoriaethau yn unol â’n
cyfrifoldeb i reoli treftadaeth naturiol Cymru, tirwedd,
bioamrywiaeth a mwynhad o gefn gwlad. Pan fo partneriaethau lleol
eisoes yn cyflenwi’r uchod, fe fyddai’n rhaid i’r rhain ddangos
cymhwysedd ehangach drwy Gymru. Pan fo dyblygu neu orgyffwrdd yn
digwydd, fe fydd Y Cyngor Cefn Gwlad yn ceisio dod â’r meysydd
hynny ynghyd dan un bartneriaeth, ble bo hynny’n ymarferol.
Hybu Dealltwriaeth ac Ymwybyddiaeth
Ar y cyd â’n partneriaid, rydym am gynyddu lefel ymwybyddiaeth o
faterion amgylcheddol ymysg pob sector o’r boblogaeth – gan
gynorthwyo i greu diwylliant o fyw cynaliadwy a pharch tuag at yr
amgylchedd drwy Gymru, yn ogystal ag adeiladu sgiliau
amgylcheddol.
Yn ogystal, uchelgais y Cyngor Cefn Gwlad eleni yw ariannu
rhagor o brosiectau sy’n cefnogi dysgu y tu allan i’r ystafell
ddosbarth yn yr amgylchedd naturiol. Fe ddylai’r prosiectau hyn
greu profiadau hamdden a dysgu o ansawdd uchel, pleserus ar gyfer
plant a phobl ifanc o fewn y sector addysgol ffurfiol. Rydym wedi
clustnodi £150,000 yn arbennig ar gyfer y prosiectau hyn.