Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth

Blaenoriaethau 2010 -2011.
Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.

Addysg Ffurfiol

Gellir cefnogi ceisiadau’n ymwneud â’r canlynol:

  • Defnyddio tir yr ysgol / yr amgylchedd lleol fel adnodd addysgol
  • Addysg yn ymwneud â’r môr
  • Gwaith ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 neu uwch (11-14 oed a hŷn)

Rhwydweithiau cenedlaethol / rhanbarthol sy’n cynorthwyo’r sector addysg ffurfiol i ddysgu yn yr amgylchedd naturiol, y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Ni ellir cefnogi ceisiadau’n ymwneud â’r canlynol:

  • Ffermio, amaethyddiaeth neu fentrau cynhyrchu bwyd, oni bai eu bod yn cyflwyno dealltwriaeth o fioamrywiaeth, cyfleoedd mynediad neu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF).
  • Prosiectau sydd o fudd i ysgolion unigol yn unig.
  • Creu adnoddau addysgol.
  • Prosiectau celf annibynnol, oni bai eu bod yn cael eu cyflwyno fel rhan o brofiad awyr agored.

Mentrau hyfforddi

Y brif flaenoriaeth yw cefnogi prosiectau a all ddangos pa sgiliau cyffredinol a pha fylchau mewn hyfforddiant a geir, ac a all gyflwyno argymhellion ar gyfer darparwyr hyfforddiant ledled Cymru.

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi rhoi arian i nifer o sefydliadau sy’n cyflwyno rhaglenni hyfforddiant penodol ar gyfer rheolwyr cefn gwlad. Byddwn yn parhau i ystyried y cyfraniad a wnawn at y rhaglenni hyn fesul achos. Ni fydd cefnogaeth o’r fath yn gyfran sylweddol o’r grantiau a roddwn. Mae’r egwyddorion a nodir yn yr adran “Gwella capasiti” yn berthnasol yn y fan yma hefyd.

Codi ymwybyddiaeth ynghylch byw’n gynaliadwy

Dyma grantiau ar gyfer sefydliadau sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth ynghylch pynciau amgylcheddol a byw o fewn terfynau amgylcheddol. Er enghraifft, sefydliadau sy’n cynnig cyngor yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, neu ddulliau gwyrdd o adeiladu pan fydd adeiladau wedi’u cynllunio i weithio yng nghyd-destun gwasanaethau ecosystem yn yr ardal.

Er mwyn bwrw ymlaen â Chynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad, byddwn yn cynnig grantiau hefyd i brosiectau a all ddangos y cysylltiad a geir rhwng y dreftadaeth naturiol, iechyd a delio ag allgáu cymdeithasol, a hynny trwy gyfrwng prosiectau cymunedol sy’n gysylltiedig â rheoli’r amgylchedd lleol, er enghraifft coedwigoedd cymunedol.

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC
C/O Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen