Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Grantiau

Bydd y Cyngor Cefn Gwlad yn dosbarthu gwerth £5 miliwn o grantiau bob blwyddyn. Gan weithio trwy bartneriaethau gydag awdurdodau lleol, cyrff amgylcheddol a chyrff gwirfoddol, byddwn yn cynnig grantiau i annog a chyflawni prosiectau sydd o les i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.

Mae’r ffenestr ceisiadau am grant yn awr ar gau.

Ar gyfer prosiectau sy’n ceisio cyfraniad grant o rhwng £500 a £5000, cysylltwch ag un o’n Swyddogion Cefn Gwlad Rhanbarthol i drafod natur eich prosiect a’i addasrwydd ar gyfer ei ariannu.  Fe ellir cysylltu â Swyddogion Cefn Gwlad Rhanbarthol drwy ein llinell ymholiadau.

Os byddwch yn aflwyddiannus wrth ymgeisio am arian o’r Cyngor Cefn Gwlad, fe all ein cylchlythyr ariannu fod o gymorth i chi ddod o hyd i ffynonellau eraill o ariannu.

Gallwch ei lawrlwytho o'r adran 'Adnoddau' isod

Dyma rai o’n brif flaenoriaethau wrth roi grantiau:        

  • Gweithredu er lles yr amgylchedd naturiol, ar dir neu fôr; cynefinoedd a rhywogaethau, daeareg a thirweddau.
  • Cysylltu pobl gyda natur, yn arbennig bobl mewn amgylchiadau dinesig neu rai sy’n dioddef unrhyw fath o anfantais.
  • Creu a gwella ffyrdd o gyrraedd a chysylltiadau gyda chefn gwlad a llecynnau glas naturiol, ac oddi mewn iddyn nhw hefyd. Mae pwyslais ychwanegol ar y glannau.
  • Hyrwyddo cyfleoedd newydd i bobl fynd ati eu hunain i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr iach 
  • Codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ac effaith gweithgareddau pobl ar ardaloedd sensitif. Addysgu pobl ac annog newid yn eu hymddygiad.
  • Cysylltu gwahanol gyrff trwy rwydweithiau er mwyn hyrwyddo arferion da a chynnig enillion amgylcheddol mewn modd mwy effeithiol
  • Creu canolfannau cofnodion lleol a sicrhau fod gwybodaeth am yr amgylchedd yn haws ei chael
  • Creu prosiectau sy’n arwain y ffordd wrth ddangos sut y gallwn fyw yn fwy cynaladwy.

Ar y tudalennau hyn ar y wefan, gallwch ddysgu mwy am fwriad ein grantiau a sut i wneud cais am gefnogaeth ariannol. Gallwch hefyd weld pwy sydd wedi derbyn cymorth gennym yn y dyfodol a sut y defnyddiwyd yr arian.

Cymhwyster

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan elusennau a sefydliadau’r trydydd sector a chanddynt gyfansoddiad sy’n caniatáu iddynt gasglu arian heb wneud elw.   Fodd bynnag, ni all y Cyngor dderbyn syniadau gan unigolion neu gwmnïau sy’n gwneud elw.

Y gobaith yw y bydd syniadau gwahanol sefydliadau’n cael eu rhoi ar wefan y Cyngor Cefn Gwlad cyn bo hir, gan roi cyfle iddynt weld a oes prosiectau tebyg yn cael eu cynnal yn yr ardal, a pha un a oes cyfle i gyflawni prosiectau ar y cyd ai peidio.

Rydym yn argymell y dylech drafod y syniadau sydd gennych am brosiectau efo staff y Cyngor Cefn Gwlad, fel y gallant gynnig cyngor i chi ynghylch eu haddasrwydd.

Fe fydd mwy o wybodaeth am grantiau ar gyfer Ebrill 2009 ymlaen yn ymddangos yma yn y dyfodol.

Sylwer – nid yw datganiadau o ddiddordeb yn geisiadau ffurfiol am grant.   Fe fydd yn rhaid i brosiectau llwyddiannus ymgeisio’n ffurfiol drachefn trwy ddefnyddio ein Ffurflen Gais bwrpasol.

ADNODDAU PELLACH...

Categorïau Grantiau
Yr hyn yr ydym yn ei ariannu

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Grantiau)
C/O Ymholiadau
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen