Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Sut i gael grant

Mae cryn alw am ein grantiau bob amser – dyma newyddion da i’r amgylchedd, oherwydd mae’n golygu bod llawer o sefydliadau eisiau cynnal prosiectau gwerth chweil. Isod fe welwch fanylion am ein gweithdrefn grantiau.

Ymgeisio am grant

Rydym yn gofyn i sefydliadau gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf trwy lenwi’r ffurflen ceisiadau dynodol a welir ar waelod y dudalen hon. Bydd hyn yn ein helpu i ddyrannu ein grantiau yn y ffordd orau, gan ddangos inni ble mae’r prif alw a’r hyn y gall ein grantiau’i gyflawni. Rhaid i’r datganiadau hyn nodi pa brosiectau sydd gennych dan sylw ar sail y categorïau a restrir.

Gellir cyflwyno ceisiadau dynodol eleni rhwng 14 Medi a 23 Hydref 2009.

Ar ôl inni gytuno ar ein cyllidebau – mis Chwefror, fel arfer – byddwn yn gwahodd ceisiadau gan y sefydliadau hynny sydd wedi crybwyll syniadau sy’n cyd-fynd â’r hyn rydym eisiau’i ddatblygu yn ystod y flwyddyn ganlynol. Fel arfer, bydd ceisiadau am grantiau’n cael eu cyflwyno erbyn mis Mai bob blwyddyn.

Cynnig grantiau

Ein nod yw cynnig y grantiau cyn gynted â phosibl bob blwyddyn, fel y gellir cyflawni prosiectau drwy gydol y flwyddyn.

Byddwn yn neilltuo swyddog prosiect grant ar eich cyfer. Pe baech angen cysylltu â rhywun yn ystod y broses, ag ef/hi y dylech gysylltu.

Hawlio taliadau grant

Fel arfer, byddwn yn talu’r grant mewn rhandaliadau, sef “hawliadau interim” a “hawliadau terfynol”. Gallwn roi rhywfaint o arian ymlaen llaw i gyrff gwirfoddol, cyn belled â’u bod yn gallu dangos eu bod angen yr arian ymlaen llaw.

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cadw’r hawl i ofyn am gael gweld ac archwilio unrhyw ddogfennau a ddefnyddir gan dderbynnydd y grant i gefnogi’i hawliadau.

Cynlluniau Monitro a Gwerthuso

I gyflwyno hawliad interim, fe fydd angen ichi ddangos cynnydd digonol o ran cwblhau’r prosiect. I gyflwyno hawliad terfynol, fe fydd angen ichi ddangos bod yr holl waith wedi’i gwblhau.

Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, cyn rhoi’r prosiect ar waith fe fydd modd i chi a’ch swyddog grant ddod i gytundeb ynglŷn â phryd y dylech gyflwyno hawliad a faint o wybodaeth y bydd ei hangen yn ystod y cam hwnnw yn y broses.

Adrodd

Bydd y Cyngor Cefn Gwlad yn gofyn ichi gyflwyno gwybodaeth mewn fformat arbennig, fel y gallwn goladu gwybodaeth am brosiectau tebyg a geir ledled Cymru. Fe fydd hyn yn ein helpu i lunio adroddiadau ar sut y caiff ein grantiau eu defnyddio drwy’r wlad. Byddwn yn sicrhau y bydd unrhyw gais am wybodaeth yn rhesymol ac y bydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect.

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC
C/O Ymholiadau
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen