Rhydwyr sy'n Nythu
Digwyddiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
Gwlyptiroedd Casnewydd 2013
Trefnydd: Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Lleoliad: Yn y Farmers Arms, Allteuryn
Rhif Cyswllt: 01633 275813
Cyfeiriad E-bost: k.dupe@ccw.gov.uk
Dyddiad Dechrau: 21.04.2013
Amser: 9:00am - 11:00am
Dyddiad Gorffen: 21.04.2013
Dydd Sul 21 Ebrill
9.00 am – 11.00 am
Taith gerdded drwy Lagynau Allteuryn i weld adar hirgoes fel
cambigau, cornchwiglod, piod môr a phibyddion coesgoch ar anterth y
tymor nythu.
Arweinydd: Kevin Dupé, Reolwr Gwarchodfa a
Wardeiniaid Gwirfoddol
Cyfarfod: Y Farmers Arms, Allteuryn.
Rhad ac am ddim
Rydym yn ddiolchgar i'r Farmers Arms am ddarparu
cyfleusterau parcio ar gyfer ein digwyddiadau yn
Allteuryn.
Alla’ i ddygymod â’r daith?
Bydd y rhan
fwyaf o’r teithiau’n cynnwys cerdded 3-4 cilometr ar lwybrau sy’n
addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Bydd teithiau cerdded
Allteuryn yn cynnwys llwybrau heb wyneb addas a grisiau i gyrraedd
y gwelfannau. Os byddwch angen cyngor ynglŷn â pha mor addas yw
taith arbennig, ffoniwch 01633 636363. Rydym yn argymell yn gryf y
dylech wisgo dillad ac esgidiau addas.
Ni chaniateir cŵn, ac eithrio cŵn tywys, rhag ofn iddynt
darfu ar yr adar a’r bywyd gwyllt rydym yn ceisio’u
gweld.
Eich Diogelwch
Mae diogelwch pawb a fydd
yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn yn bwysig dros ben i ni. Fodd
bynnag, mae damweiniau’n gallu digwydd, a bydd pawb sy’n mynychu yn
gwneud hynny ar eu menter eu hunain.