Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd
Digwyddiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
Gwlyptiroedd Casnewydd 2013
Trefnydd: Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd
Rhif Cyswllt: 01633 275813
Cyfeiriad E-bost: k.dupe@ccw.gov.uk
Dyddiad Dechrau: 02.02.2013
Amser: 9.40am-11.30am
Dyddiad Gorffen: 02.02.2013
Dydd Sadwrn 2 Chwefror
9:40am – 11:30am
Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd
Taith gerdded i archwilio corsleoedd ac Aber Hafren ar y Diwrnod
Rhyngwladol hwn i ddathlu Gwlypdiroedd Rhyfeddol y Byd.
Dewch I weld adar gwyllt sy’n gaeafu megis yr hwyaden gopog, yr
hwyaden bengoch, yr hwyaden lwyd, y chwiwell, yr hwyaden lydanbig a
rhydwyr megis y gylfinir a phibydd y mawn.
Arweinwyr: Kevin Dupé, Rheolwr y Warchodfa, a
Wardeiniaid Gwirfoddol
Man cyfarfod: Maes Parcio’r Warchodfa
Trafnidiaeth Leol: Ewch ar fws rhif 63 am 9 y
bore o Orsaf Fysiau Casnewydd. Mae hwn hefyd yn codi teithwyr ar
hyd Heol Corporation, wrth ymyl y Corporation Hotel am 9.10 y bore.
Bydd bws yn gadael Gwlypdiroedd Casnewydd am 11.36 y bore.
Alla’ i ddygymod â’r daith?
Bydd y rhan fwyaf o’r teithiau’n cynnwys cerdded 3-4 cilometr ar
lwybrau sy’n addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Bydd
teithiau cerdded Allteuryn yn cynnwys llwybrau heb wyneb addas a
grisiau i gyrraedd y gwelfannau. Os byddwch angen cyngor ynglŷn â
pha mor addas yw taith arbennig, ffoniwch 01633 636363.
Rydym yn argymell yn gryf y dylech wisgo dillad ac esgidiau
addas.
Rhad ac am ddim.
Eich Diogelwch
Mae diogelwch pawb a fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn yn
bwysig dros ben i ni. Fodd bynnag, mae damweiniau’n gallu digwydd,
a bydd pawb sy’n mynychu yn gwneud hynny ar eu menter eu
hunain.
Ni chaniateir cŵn, heblaw cŵn tywys, yn unrhyw un o’r
digwyddiadau hyn, oherwydd gallent darfu ar yr adar a’r bywyd
gwyllt arall y byddwn yn ceisio’i weld.
ERTHYGLAU PERTHNASOL...
Gweler Hefyd…
Chwefror 2013
Digwyddiadau & cyfarfodydd
Gwefannau Eraill...
Traveline
Cymru
Croeso i Traveline Cymru, eich siop un-cam ar gyfer
amserlenni a cynlluniau teithio, ar draws Cymru, ar bws, coets a
trên.