Cynllunio llwybr i groesi’r Bae
Llwybr ar draws Morglawdd Bae Caerdydd yw un
o’r cynlluniau mawr cyntaf sy’n debyg o ddigwydd yn y rhaglen i
wella mynediad i’r glannau.
Llwybr ar draws Morglawdd Bae Caerdydd yw un o’r cynlluniau mawr
cyntaf sy’n debyg o ddigwydd yn y rhaglen i wella mynediad i’r
glannau.
Wrth i awdurdodau lleol weithio ar raglenni mynediad i fanteisio
ar grantiau ariannol sy’n cael eu gweinyddu gan y Cyngor Cefn Gwlad
ar ran y Cynulliad, mae’r cynllun yng Nghaerdydd eisoes ar y
gweill.
Am y tro cyntaf’, fe fydd yn golygu fod modd cerdded neu seiclo
o amgylch y Bae i gyd, gan gynnwys croesi o ardal Penarth i Mermaid
Quay.
Bydd angen pont droed a beiciau newydd a bydd y llwybr yn
cysylltu â’r rhwydwaith o ffyrdd cerdded a beicio yng Nghaerdydd a
thu hwnt.
Y gobaith yw y bydd y llwybr yn agor yng ngwanwyn 2008.