Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Cadeirydd yn ffarwelio

Ar ôl deng mlynedd yn arwain y Cyngor Cefn Gwlad, mae’r Cadeirydd, John Lloyd Jones, yn credu cyn gryfed ag erioed mai’r allwedd yw cydweithio rhwng ffermwyr a chefnogwyr yr amgylchedd.

Cadeirydd Cyngor CCGC

Yr elfen allweddol arall, meddai, yw arbenigedd, profiad ac ymroddiad staff y Cyngor i’r gwaith: “Mi wnaeth hynny argraff fawr iawn arna’ i reit o’r dechrau. Dw i wedi bod yn ffodus iawn i gael deng mlynedd yn gweithio efo’r Cyngor.”

Ac yntau’n ymddeol o’r swydd, mae’n dweud fod ei brofiad cynnar gyda mynediad i gefn gwlad yn brawf o werth cydweithredu. Yng Nghymru, meddai, fe lwyddwyd i greu mapiau tir agored gyda llawer llai o drafferth nag yn Lloegr ac am ddegfed rhan o’r gost fesul hectar.“

Roedd yna ymgynghori go iawn,” meddai’r ffarmwr o Sir Feirionnydd. “Ac roedd yna newid go iawn i’r mapiau.”

Y siom fwya’ yn ystod ei gyfnod oedd colli’r gwaith o weinyddu’r cynllun Tir Gofal – roedd hwnnw, meddai, wedi helpu staff y Cyngor a ffermwyr i ddeall ei gilydd yn well.

“Gyda Tir Gofal, roedd rhaid gweithio efo’r ffermwyr a bod yn bragmatig. Ac ar yr un pryd, roedden ni’n edrych y tu hwnt i un anifail neu un cynefin a gweld y pictiwr i gyd.”

Yr agwedd ehangach yna yw un o’r newidiadau mawr, meddai; un arall yw effaith newid hinsawdd. Mae yna bwyslais cynyddol wedi bod hefyd ar gyfraniad cefn gwlad a’r awyr agored at iechyd a’r economi ac at weld pwysigrwydd llecynnau gwyrdd mewn trefi a dinasoedd.

“Yr hyn yr ydw i wedi dysgu fwya’ amdano’n bersonol ydi amgylchedd y môr,” meddai. “Cyn i fi ddod yn Gadeirydd, do’n i’n gwybod dim am hynny! Ond mae wedi bod yn rhan bwysig o’r gwaith.

“Dw i wedi mwynhau pob munud o’r deng mlynedd. Ro’n i’n codi yn y bore ac yn edrych ymlaen at wynebu sialens newydd a gwahanol.”

Wrth i Adain fynd i’r wasg, croesawodd y Cyngor Cefn Gwlad y newyddion fod Gweinidog Amgylchedd y Cynulliad, Jane Davidson, wedi penodi Morgan Parry yn Gadeirydd newydd, am dymor o dair blynedd o ddechrau Mawrth 2010.

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen