Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Dechrau’r gwaith ar y glannau

Mae’r gwaith wedi dechrau ar wella mynediad i lannau môr Cymru, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi gwerth £1.5 miliwn yn grantiau i 16 awdurdod lleol eleni.

Mae’r gwaith wedi dechrau ar wella mynediad i lannau môr Cymru, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi gwerth £1.5 miliwn yn grantiau i 16 awdurdod lleol eleni.

Dyma ddechrau ar raglen chwe blynedd a fydd yn arwain yn y pen draw at greu un llwybr cerdded hyd holl arfordir y wlad.

Roedd yr awdurdodau’n cynnig rhaglenni gwaith i’w pwyso a’u mesur gan arbenigwyr y Cyngor Cefn Gwlad, sy’n gweinyddu’r rhaglen ar ran Llywodraeth y Cynulliad ac, yn ôl y Prif Weithredwr Roger Thomas, mae’r cynlluniau’n plesio.

“Mae yna gynigion cyffrous iawn yn yr arfaeth wrth i ni weithio tuag at un llwybr arfordirol i Gymru,” meddai.

Mae’r gwaith y flwyddyn gyntaf yn bennaf ar lefel gymharol syml – gwelliannau bychain yw’r rhan fwyaf, yn cynnwys gwella llwybrau presennol, ychwanegu arwyddion a gwaith paratoi.

Mae nifer o’r awdurdodau hefyd wedi cyflogi gweithwyr yn benodol ar gyfer y prosiect a’r disgwyl yw y bydd y gwaith ymarferol yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Cyngor Sir Ddinbych sydd wedi cael y swm lleiaf o arian hyd yma - £29,000 – gyda Chyngor Gwynedd yn cael y mwyaf - £174,428.

Mae’r ffigurau’n adlewyrchu hyd arfordir y gwahanol ardaloedd.

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen