Clwy’r Traed a’r Genau
Mae safleoedd y Cyngor Cefn Gwlad, a chefn
gwlad Cymru yn gyffredinol, ar agor er gwaetha achos pellach o
Glwy'r Traed a'r Genau yn Surrey.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a
Llywodraeth y Cynulliad wedi datgan nad oes angen i bobl gadw draw
o gefn gwlad. Ar hyn o bryd, yr unig bethau sy’n effeithio ar
atyniadau ymwelwyr yw’r rheini sy’n deillio o’r cyfyngiadau ar
symud anifeiliaid ac ar ddod ag anifeiliaid at ei gilydd.
Yn ôl cyngor cyfredol y milfeddygon, dydy’r perygl y gall
ymwelwyr ledaenu’r clwyf y tu allan i’r Parth Gwarchod ddim yn
uchel. Dim ond pan fydd cau tir mynediad a llwybrau
cyhoeddus yn gwbl angenrheidiol y byddwn yn gwneud hynny.
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cynghori ymwelwyr i gadw at yr holl
gamau bioddiogelwch sydd ar waith.
I gael mwy o fanylion am y cyngor a rydd Llywodraeth Cynulliad
Cymru i ffermwyr a’r cyhoedd, cliciwch ar y cyswllt isod:
Manylion
I gael mwy o wybodaeth am yr achosion o Glwy’r Traed a’r Genau
yn Lloegr, cliciwch ar y cyswllt isod a fydd yn eich arwain at
wefan DEFRA:
Manylion
Yr effaith a gaiff cyfyngiadau ar symud anifeiliaid ar
gydymffurfio â chytundebau A15, A16 ac A39
Efallai y bydd cyfyngiadau Clwy’r Traed a’r Genau yn peri i
berchnogion a deiliaid tir a chanddynt gytundebau gael trafferth i
gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau rheoli a geir yn y Cynllun Rheoli
sy’n rhan o’u cytundeb. Yn y sefyllfa bresennol, ni
fydd methu â chydymffurfio â chytundeb rheoli o ganlyniad
uniongyrchol i’r cyfyngiadau ar symud anifeiliaid yn cael ei
ystyried fel tor cytundeb.
Felly, fe fydd modd i ddeiliaid cytundebau ofyn am ganiatâd i’r
cyfarwyddiadau rheoli a geir mewn cytundeb rheoli gael eu gohirio
neu eu newid er mwyn eu helpu i oresgyn y trafferthion a all fod yn
eu hwynebu. Dylai rheolwyr tir sydd angen gwneud hyn
gysylltu â’u Hasiant Tir o fewn y Cyngor Cefn Gwlad yn gyntaf i
ofyn am ganiatâd.
Dylai ffermwyr a thirfeddianwyr sydd angen cyngor mwy penodol
gysylltu â’r Swyddogion Iechyd Anifeiliaid perthnasol:
Caernarfon: 01286 674144
Caerfyrddin: 01267 245400 yn ystod y nos: 07000 780144
Caerdydd: 029 20 768500
Llinell Gymorth DEFRA: 0845 9335577