Sut mae bioamrywiaeth yn ein cadw’n iach?
Yn yr erthygl ddiweddaraf yn y gyfres sy’n
trafod pa mor bwysig yw bioamrywiaeth i’n parhad ni ar y ddaear,
mae Anne-Marie Beresford-Webb, Swyddog Polisi Iechyd y Cyngor Cefn
Gwlad, yn craffu’n fwy manwl ar sut yn union all natur gael effaith
gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles.

Mae bod allan yn yr awyr agored yn mwynhau’r holl awyr iach yn
gwneud inni deimlo’n hapus ac iach. Ond tan yn ddiweddar, doedd neb
wedi meddwl yn rhy ddwfn am y peth. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae mwy
mwy o dystiolaeth yn dangos bod gwyrddfannau sy’n ferw o natur,
gyda’u newidiadau tymhorol a’u lliwiau amrywiol, yn annog pobl i
wneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd. Yn ei dro, mae’n dod i’r
amlwg fod anadlu awyr iach, mewn amgylchedd ddymunol, yn helpu i
leihau straen, boed chi’n gwneudgweithgarwch corfforol neu’n
ymlacio mewn llefydd tawel.
Mae dod i gysylltiad â natur yn gallu lleihau straen yn gyflym,
yn ogystal â gwneud i bobl ganolbwyntio’n well. Yn wir, mae’n gallu
codi’r galon. Mwynhau natur yw un o’r ffyrdd gorau o wella iechyd
yn gyffredinol – yn gorfforol ac yn ysbrydol.

Er bod gan Gymru dreftadaeth naturiol gyfoethog a digonedd o
gyfleoedd i hamddena yn yr awyr agored, dydy iechyd y Cymry na’u
gweithgarwch corfforol ddim cystal â thrigolion gwledydd eraill yn
Ewrop. Felly rhan o’n gwaith ni yn y Cyngor Cefn Gwlad ydy gwneud
hi’n hawdd i bobl ddod i gysylltiad â natur a chael y cyfle i roi
cynnig ar weithgareddau sy’n addas iddyn nhw. Dyna pan rydyn ni’n
gweithio gydag Awdurdodau Lleol er enghraifft i wella llecynnau
gweyrdd fel Parciau Gwledig a Gwarchodfeydd Natur Lleol sydd fel
arfer ar garreg drws ein trefi a’n dinasoedd. Fwy fwy, mae’r mannau
yma’n cynnig profiadau a gweithgareddau sy’n addas ar gyfer bobl o
bob oed a gallu.
Ond un ochr i’r geiniog yn unig yw hyn – mae gan natur yn
fuddiol mewn ffordd mwy uniongyrchol hefyd.
Ers miloedd o flynyddoedd, mae pobl wedi bod yn ymwybodol o
rinweddau meddyginiaethol rhai planhigion arbennig. Ac mae
bioamrywiaeth wedi ein helpu i ddeall mwy am y corff dynol.
Yma yng Nghymru, ym mhentref bach Myddfai yn Sir Gaerfyrddin,
ceid rhwydwaith o feddygon Cymreig a oedd, rhwng y bedwaredd ganrif
ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwog trwy Ewrop
oherwydd eu gwybodaeth am blanhigion llysieuol. Arferai meddygon
Myddfai ddefnyddio 175 o lysiau gwahanol a gâi eu tyfu’n lleol fel
sail i’w meddyginiaethau.

Caiff amrywiaeth eang o blanhigion, anifeiliaid a ffyngoedd eu
defnyddio i wneud meddyginiaethau. Mae mwy na 60% o boblogaeth y
byd yn dibynnu ar blanhigion i roi meddyginiaethau iddyn nhw. Yn
wir, mae rhai o’r cyffuriau yma’n adnabyddus – er enghraifft mae
cwinîn, a ddaw o’r goeden sincona, wedi’i ddefnyddio i drin
malaria. Ac mae digitalis, a ddaw o fysedd y cŵn, yn cael ei
ddefnyddio i drin problemau gyda’r galon.
Ac yn ôl y National Cancer Institute, mae mwy na 70% o’r
cyffuriau canser addawol sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn dod
o blanhigion sydd i’w cael mewn coedwigoedd glaw trofannol.
Yn ddi-os, mae’r rhan fwyaf o’r cyffuriau sydd gennym yn tarddu
o fyd natur. Ond mae gennym gymaint i’w ddysgu o hyd. O’r 250,000 o
blanhigion gwahanol y gwyddom amdanyn nhw ar hyd a lled y byd, dim
ond ar ryw 5,000 rydym wedi cynnal arbrofion i weld a oes modd eu
defnyddio fel meddyginiaethau. Felly, mae digon o gyfle eto i ddod
o hyd i feddyginiaethau a all wella’r clefydau sy’n bodoli
heddiw.
Ond dydy’r newyddion ddim yn dda i gyd. Yn ôl astudiaeth
fyd-eang a gynhaliwyd yn ddiweddar, mae cannoedd o blanhigion
meddyginiaethol, sy’n sail i fwy na 50% o gyffuriau presgripsiwn,
dan fygythiad ac ar fin diflannu.
Mae 2010 yn Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth. Bydd cannoedd o
sefydliadau a grwpiau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn dod at ei
gilydd i geisio codi ymwybyddiaeth holl drigolion y byd ynglŷn â
hyn, a’r nod yw rhoi stop ar golli bioamrywiaeth. I weld beth
allwch chi’i wneud, ewch i www.iyb.org.
ERTHYGLAU PERTHNASOL...
GWELER HEFYD...
Blwyddyn Ryngwladol
Bioamrywiaeth
Yn 2010, fe fydd hi’n Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth. Dyma ran o
gyfres o erthyglau'n sôn am bwysigrwydd bioamrywiaeth i'n parhad ni
ar y Ddaear