Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Mapio gwely’r môr o amgylch Cymru

Mae HABMAP – sef prosiect sy’n mapio cynefinoedd naturiol ym Môr Iwerddon – wedi cyrraedd carreg filltir bwysig. Erbyn hyn, mae dyfroedd Cymru i gyd wedi’u mapio, yn cynnwys Môr Hafren, aber Afon Dyfrdwy ac aber Afon Hafren am y tro cyntaf. Bellach mae’r holl fapiau ar gael ar y wefan yma.

Habmap mapllun ⓗCCGC

Rhoddwyd HABMAP ar waith yn 2004, ac mae’n defnyddio dull modelu i geisio proffwydo dosbarthiad cynefinoedd ym Môr Iwerddon.

Trwy gyfuno setiau data biolegol a ffisegol ag arolygon biolegol a mapiau acwstig newydd ar draws dyfroedd Cymru, mae gwyddonwyr môr y Cyngor Cefn Gwlad wedi ceisio nodi ble y mae pob cynefin yn debygol o fod.

Mae cael tystiolaeth mor gadarn yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cyngor doeth i’r Llywodraeth ac eraill ynglŷn â’r ffordd orau o warchod a rheoli amgylchedd y môr a’i gynefinoedd gwerthfawr.

Mae’r gwaith o fapio cynefinoedd trwy ddyfroedd Cymru wedi deillio o’r gwaith gwreiddiol a wnaed ym Môn Iwerddon. Cafodd hwn ei ariannu gan INTERREG a’i gyhoeddi ar ffurf dau o adroddiadau BIOMÔR, ar y cyd ag Amgueddfa Cymru.

Gwyddonwyr o’r Cyngor Cefn Gwlad, yn ogystal ag ecolegwyr ac arbenigwyr o ABPmer, sydd wedi mynd i’r afael ag ail gam y prosiect, ac aberoedd sydd dan sylw’r tro hwn.

Erbyn hyn, mae canlyniadau’r ymarfer modelu a mapio diweddaraf i’w gweld yn adran “Adnoddau” tudalennau newydd y prosiect HABMAP: http://www.ccgc.gov.uk/landscape--wildlife/habitats--species/habmap.aspx?lang=cy-gb

Yn y fan hon gallwch lawrlwytho adroddiadau a mapiau biotopau rhagfynegol (ar gyfer yr astudiaeth wreiddiol a’r astudiaeth ddilynol), ynghyd â chanlyniadau’r gwaith arolygu a wnaed yn ystod y prosiect.

Diwedd

 

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Mai 2013| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031  
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen