Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Taclo a chreu cyfle i yrwyr traws gwlad

Cael cydbwysedd rhwng gwarchod yr amgylchedd ac awydd rhai pobol i yrru ceir a beiciau modur oddi ar y ffyrdd arferol yw nod pum prosiect sy’n cael cefnogaeth y Cyngor Cefn Gwlad mewn gwahanol rannau o Gymru.

Yng nghefn gwlad, a hyd yn oed mewn ardaloedd trefol,mae beiciau modur a cherbydau gyriant pedair olwyn yn gwneud drwg i fywyd gwyllt a chynefinoedd ac i fwynhad pobl eraill.

Yr ateb, yn ôl y Cyngor, yw ceisio atal y difrod gan gynnig cyfleodd cyfreithlon i bobl yrru a beicio traws gwlad.

Yng Nghwm Elan, mae heddlu mewn Landrover yn plismona’r ardal a phosteri’n dangos yn glir lle mae hawl i fynd traws gwlad.

Yng Nghaerdydd, yn lle difrodi parciau a thir glas, mae beicwyr ifanc wedi cael trac pwrpasol, tra bod canolfan hyfforddi beicwyr ifanc wedi ei chodi yn Ystalyfera ger Castell Nedd.

Yn Nhorfaen a Sir Fynwy fe fydd swyddogion ar fotorbeics yn galw heibio i feysydd parcio a llefydd o’r fath i annog beicwyr i weithredu’n gyfreithlon.

“Drwy’r prosiectau yma, rydym yn gobeithio cael cydbwysedd rhwng gwarchod yr amgylchedd a rhoi cyfleon i bobol yrru a reidio traws gwlad mewn modd cyfreithlon,” meddai Linda Ashton, Swyddog Rhanbarthol gyda’r Cyngor Cefn Gwlad.

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen