Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Yr Helfa Gnau Euraidd

Mae’r People’s Trust for Endangered Species a Natural England yn lansio trydedd Helfa Gnau Euraidd er mwyn gweld ble mae pathewod i’w cael ar draws y wlad.

Cnau cyll yw hoff fwyd pathewod. Yn lwcus i ni, wrth geisio cyrraedd y cnau tu mewn mae pathewod yn gadael olion dannedd amlwg ar y cnau gwyrdd allanol, cyn taflu’r plisg ar lawr y goedwig.

Fe gymerodd miloedd o wirfoddolwyr ran yn y ddwy helfa gyntaf yn 1993 a 2001, gan gasglu cnau cyll mewn mwy na 2,000 o safleoedd. Fe wnaethon nhw helpu i ddod o hyd i 500 o goetiroedd yng Nghymru a Lloegr lle mae pathewod i’w cael.

Yn awr, rydyn ni’n awyddus ichi fentro i’r coed unwaith eto yn ystod yr hydref a’r gaeaf i chwilio am fwy o gnau sydd wedi’u cnoi.

Llun ⓗEliana Sevianu

 

Pecyn Arolygu

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi llunio fersiwn Cymraeg o’r pecyn arolygu. Gallwch lwytho hwn i lawr trwy glicio ar y cyswllt isod.

 

Pecyn Arolygu
I weld sut allwch chi gymryd rhan yn yr helfa, llwythwch becyn arolygu i lawr.


Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen