Michael Griffith
Cadeirydd presennol y Cyngor yn talu teyrnged
i Michael Griffith

Newyddion trist iawn oedd clywed am farwolaeth cyn Gadeirydd y
Cyngor Cefn Gwlad, Michael Griffith CBE.
Ffermwr a thirfeddiannwr o Drefnant, Sir Ddinbych, oedd Michael
Griffith, 75, ac ef oedd Cadeirydd cyntaf y Cyngor. Bu yn y swydd
honno am 10 mlynedd, rhwng 1990 a 2000.
Wrth dalu teyrnged i Michael Griffith, dyma a ddywedodd John
Lloyd Jones, Cadeirydd presennol y Cyngor:
“Roedd Michael wedi ymrwymo’n llwyr i’r
gwasanaethau cyhoeddus. Doeth iawn oedd ei ddewis fel Cadeirydd
cyntaf y Cyngor, a dylanwadodd lawer ar lywio’r modd y datblygodd y
sefydliad. Credai’n gryf mewn creu partneriaeth â thirfeddianwyr,
cyrff gwirfoddol a sefydliadau eraill.
“Un o’r prif bethau a gyflawnodd oedd
datblygu cynllun amaeth-amgylcheddol peilot Tir Cymen a chynllun
Tir Gofal Cymru gyfan. Mae’r gwaith yma’n crisialu ei gred
angerddol y gall gwarchod natur fynd law yn llaw â ffermio mewn
ffordd sy’n gydnaws â’r amgylchedd.”
Mae gan nifer o’r rhai a weithiodd ochr yn ochr ag ef yn y
Cyngor straeon difyr ac atgofion melys amdano. Roedd cefn gwlad yn
agos iawn at ei galon, a daeth ag ymagwedd graff a phragmatig i’r
sefydliad.
Estynnwn ein cydymdeimlad llwyr i deulu Michael Griffith.
ERTHYGLAU PERTHNASOL
GWELER HEFYD...
Adain y
Ddraig
papur newydd corfforaethol y Cyngor, lle cewch gipolwg ar yr hyn
sydd gennym ar y gweill. Caiff ei gyhoeddi ddwywaith y
flwyddyn.