Cyfres deledu arloesol am fyd natur
Heno, fe fydd Iolo Williams y naturiaethwr,
sy’n enwog am ei frwdfrydedd dros warchod byd natur, yn cyflwyno’r
rhaglen gyntaf o blith chwech ar S4C.

Fe fydd ‘Natur Cymru’ yn tywys y gwylwyr ar daith ar hyd a lled
gwlyptiroedd, mynyddoedd, coedwigoedd a glannau Cymru trwy bedwar
tymor trawiadol.
Meddai Iolo, 45, sy’n byw ym Meifod, Powys: “Dw i wedi bod
eisiau cyflwyno cyfres fel hon ers blynyddoedd – un sy’n
ymchwilio’n fanwl i natur Cymru. Dyma’r math o gyfres y bydd pobl
yn edrych yn ôl arni ymhen blynyddoedd ac yn dweud, ‘dyna sut oedd
natur Cymru yn negawd cyntaf y mileniwm newydd’.
“Mae Natur Cymru yn torri tir newydd gan ei bod yn sôn am holl
gynefinoedd y wlad, gan ffilmio’r amrywiaeth mwyaf o rywogaethau
trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Yn sicr, mae’r gyfres yn
rhoi gwedd newydd i ni ar nifer o greaduriaid. Ond efallai mai’r
pethau mwyaf trawiadol ydy lluniau’r wiwer goch yn byw yn y gwyllt
yng Nghymru.
“Ond yr hyn dw i eisiau ei bwysleisio ydy’r ffaith fod y gyfres
yn dangos bod modd i ni weld y rhan fwyaf o’r golygfeydd bendigedig
yma ar garreg ein drws. Dw i eisiau annog y gwylwyr i fentro allan
i wylio bywyd gwyllt a gwerthfawrogi ein treftadaeth naturiol.”
Steve Phillips a Paul Kay yw’r rhai sydd wedi bod yn ffilmio’r
gyfres, sef dau o ddynion camera byd natur mwyaf profiadol y DU, a
bydd modd gwylio anturiaethau Iolo mewn fformat eglurder uchel. Yn
wir, arweiniodd y prosiect uchelgeisiol at ddeunaw mis o ffilmio
didrugaredd, gan ganolbwyntio ar gannoedd o rywogaethau mewn degau
o leoliadau – a hynny ym mhob tywydd. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi
llwyddo i gofnodi darluniau unigryw iawn o fyd natur Cymru, gan
gynnwys rhai golygfeydd hynod brin.
Ceir gwefan gynhwysfawr sy’n mynd law yn llaw efo’r gyfres, a
hefyd fe fydd rhaglen ddogfen ychwanegol - Natur Cymru/Tu ôl i’r
Camera – yn rhoi cyfle i ni gael cip tu ôl i’r llenni ar sut y
cafodd y gyfres ei chreu.
Mae’r rhaglen gyntaf yn canolbwyntio ar ddŵr, gan edrych ar y
bywyd gwyllt sy’n byw mewn llynnoedd, afonydd, gwlyptiroedd ac
aberoedd, ac mae Iolo yn ymweld ag Afon Gwy, aberoedd Glaslyn a
Chonwy, Cors Caron, rhaeadrau Rhiwagor ger Llyn Efyrnwy, a
llynnoedd a grëwyd gan ddyn, er enghraifft Bosherton yn Ne Sir
Benfro.
Mae’r llefydd hyn yn gartrefi i adar, pysgod a phob math o
greaduriaid cyfarwydd – yn ogystal â rhywogaethau llai adnabyddus.
Ymhlith yr uchafbwyntiau gellir gweld llysywod pendoll yn Afon Gwy
a phâr o wyachod mawr copog yn cymharu.
“Dyma un peth fu’n agoriad llygad mawr i mi. Er ’mod i wedi
deifio rhywfaint, mae llawer iawn o’r bywyd gwyllt sydd dan y dŵr
yn newydd i mi, fel i nifer o’r gwylwyr. Mae’n gynefin sydd mewn
perygl cynyddol o du pobl – a dw i’n gobeithio y bydd y gyfres yn
dangos pa mor bwysig ydy gwarchod y gwahanol gynefinoedd.”
Mae’r gyfres yn dechrau heno am 9.00pm ar S4C, ac mae ar gael
efo isdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Safleoedd eraill...
Gwefan Natur
Cymru
Mae gwefan Natur Cymru, sy’n cyd-fynd efo’r gyfres, yn cynnwys
gwybodaeth bellach am anturiaethau diweddaraf Iolo – gan gynnwys
lawrlwythiadau, ffilm tu ôl i’r llenni a dyddiadur fideo