Cymru yn ‘Blodeuo’ – y Gwanwyn o dan y Môr
Mae’r gwanwyn cynnar yn amser cynhyrfus, coed
yn blaguro, adar yn dechrau canu ac wyn bach yn prancio yn y caeau,
ond efallai nad yw darllenwyr yn gwybod fod newidiadau mawr yn y
gwanwyn yn ein dyfroedd arfordirol hefyd. Fel ag ar y tir, ceir
newid cynyddol mewn lliwiau a gwead sy’n darogan dechrau blwyddyn
newydd mewn natur.
Un o arwyddion cynharaf y gwanwyn yw newid yng ngolwg y môr. Mae
stormydd y gaeaf yn corddi tomennydd o dywod a llaid, sy’n llawn
maetholion. Gyda mwy o heulwen, mae’r maetholion hyn yn rhoi
digonedd o fwyd i greaduriaid y môr. Planhigion ac anifeiliaid
bychan microsgopaidd yw’r rhan fwyaf o’r creaduriaid hyn, a
adweinir fel ffytoplancton a swoplancton a gall miloedd lawer
ohonyn nhw fod mewn bwcedaid o ddwr y môr.
Bydd y swoplancton yn codi i’r wyneb yn ystod y nos i fwydo, a phan
aflonyddir arnyn nhw ceir arddangosfa o oleuadau’n fflachio, sydd,
fe gredir ffordd o ddrysu ysglyfaethwyr. Mae un o’r rhain, sydd i’w
gael yn Afon Menai ac a elwir yn Saesneg yn ‘seasparkle’ (Noctiluca
scintillans), yn gallu goleuo ystafell gyfan os caiff ei ysgwyd
mewn potel. Bu’r ‘Bioymoleuedd’ hyn yn gyfrifol am sawl chwedl am
ddewiniaeth i forwyr ofergoelus; ac, fel y darganfu Samuel Taylor
Coleridge (1772 - 1834), pan welodd y ‘seasparkle’ wrth groesi’r
Fenai o Gaernarfon, roedd hefyd yn cynhyrfu’r awen:
About, about, in reel and rout
The death-fires danced at night;
The water, like a witch’s oils,
Burnt green, and blue and white.
Gelwir hyn, sy’n digwydd yn y gwanwyn, yn ‘gwanwyn flodeuog
algaidd’ pan fo nifer y plancton sy’n bwydo a’r maetholion yn
cynyddu’n sylweddol ac yn rhoi gwawr werdd, leidiog i’r moroedd o’n
cwmpas. Meddai Dr Rohan Holt, biolegydd y môr sy’n gweithio i
Gyngor Cefn Gwlad Cymru, “Mae plymio bron iawn yn amhosibl yn ystod
y blodeuo gan fod y gwelededd mor wael – mae fel gweithio mewn
storm o eira. Fel arfer, rydym yn disgwyl tan fis Mai, pan mae’r
blodeuo wedi marw a’r gwelededd yn llawer gwell – ac mae’r môr yn
gynhesach!”
Meddai Dr Holt, ‘Mae’r ‘‘cawl’’ planctonaidd yn fwyd i gymaint o
bethau yn y môr yn enwedig y lluoedd o’r creaduriaid a’r planhigion
lliwgar sy’n byw ar wely’r môr. Mae’r cwrel meddal, blodau'r gwynt
a ffynidwydden y môr oll yn lledu neu adnewyddu eu tentaclau yn y
gwanwyn i gymryd mantais lawn ar y wledd o blancton.’ Mae’r
plancton hefyd yn fwyd hanfodol i lawer o’n rhywogaethau o bysgod,
megis mecryll a phenwaig, a fydd cyn bo hir yn mudo yn heigiau mawr
o’u mannau bwyta yn y gaeaf i ddyfroedd bas yr arfordir.
Meddai Siôn Williams, pysgotwr o Lyn, ‘Mae’r gwanwyn yn amser da
i mi. Rhaid i mi ddibynnu ar gimwch a chranc yn y gaeaf ond mi
fydda i’n edrych ymlaen at y gwanwyn i gael dal pysgod unwaith eto.
Mi fydda i hefyd yn gweld dolffiniaid yn ystod y gwanwyn a’r haf.
Yr adeg hynny, mi fyddai i’n stopio injan y cwch ac yn eu gwylio’n
bwydo ar benwaig. Mae’n olygfa braf’. Ond mae Siôn yn llai na hapus
o weld haen o blancton yn gorchuddio ei gewyll gyda slafan
werdd.
Mae’r erthygl nodwedd hon yn un o gyfres a gyhoeddir gan Gyngor
Cefn Gwlad Cymru i gefnogi “Sea Britain 2005” - gwyl blwyddyn gron
o ddigwyddiadau sy’n edrych ar bob agwedd o’n treftadaeth forol
gyfoethog ac yn annog pawb ohonom i ‘edrych o’r newydd ar y môr’.
Gallwch weld rhagor ar y wefan www.SeaBritain2005.com
Pe byddech yn hoffi mwy o wybodaeth ynghylch Cyngor Cefn Gwlad
Cymru a’r gwaith mae’n ei wneud yng nghefn gwlad ac yn y dyfroedd
arfordirol, cysylltwch â’r Uned Ymholiadau ar 0845 1306 229 neu
ymweld â’r wefan (www.ccw.gov.uk)