Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Rhyfeddod Bywyd Gwyllt

Yn ystod Arolwg Cychod Bach y Sea Trust, ar fwrdd y “Cartlett Lady” o amgylch Ynysoedd Sir Benfro, daeth gwirfoddolwyr y Sea Trust ar draws rhyfeddod bywyd gwyllt gwirioneddol drawiadol.

Cliff Benson, sylfaenydd y Sea Trust, sy’n disgrifio’r olygfa:

Dolffin

“Roedden ni’n hwylio mewn cylch o amgylch yr Ynysoedd, yn ceisio gorffen yr arolwg cyn i’r tywydd waethygu. Wrth inni nesu at Oleudy’r Smalls roedd y môr yn eithaf garw a’r awyr yn llwyd a chymylog. Yn sydyn, fe welon ni yn y pellter rywbeth a oedd yn debyg i storm eira. Wrth inni nesu, fe sylweddolon ni mai miloedd o huganod oedd y “storm eira”, ar wasgar am filltir neu fwy. Dan y rhain roedd yna wal o ddolffiniaid, tua milltir o hyd a sawl milltir o led. Roedden nhw’n dod heibio’r cwch, y naill haig ar ôl y llall. Arhosodd rhai i gael cip arnon ni, ond mynd yn eu blaenau a wnaeth y rhan fwyaf. Roedd yr huganod yr un fath yn union ag ymosodiad milwrol – yn plymio i’r dŵr nes peri i’r ewyn ffrwydro, a hynny’n union o flaen y dolffiniaid. Rhaid bod nifer o heigiau llai o ddolffiniaid wedi uno gyda’i gilydd er mwyn gwneud yn fawr o’r pysgod. Mae pob un ohonon ni wedi gweld yr haig anferth honno o ddolffiniaid oddi ar arfordir De Affrica ar raglen “Blue Planet” David Attenborough. Rydw i wedi astudio’r ffilm yma’n fanwl, ond dolffiniaid llawndwf yn unig sydd i’w gweld yno. Roedd hyn yn wahanol, oherwydd roedd modd gweld dolffiniaid o bob oed – o rai mawr, llawndwf i fabanod bach.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Sea Trust yn Sir Benfro weld rhyfeddod o’r fath yn y môr;

Dolffiniaid

“Ym mis Awst 2005, fe welon ni haig anferth arall. Llwyddais i ffilmio hon ac mae’r lluniau wedi’u dangos o amgylch y byd. Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld golygfa arall mor drawiadol yn ystod fy oes – mae o fel ennill y loteri am yr eildro! Y tro yma, roedd y môr yn fwy garw o lawer ac roeddwn i’n cael fy nhaflu o un lle i’r llall wrth imi roi cynnig ar eu ffilmio. Fe fydd angen golygu tipyn go lew ar y sŵn a’r lluniau herciog, ond gobeithio y bydd yn rhoi cipolwg i bawb o’r rhyfeddodau sydd i’w cael yn nyfroedd Sir Benfro.” Llwyddodd ein ffotograffwyr Rich Crossen a Paul Leafe i dynnu ffotograffau gwirioneddol wych.

Dyma yw pwrpas y Sea Trust – pobl leol yn cadw golwg ar fywyd gwyllt morol yr ardal ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb drosto. Fe allai’r digwyddiad fod yn un rheolaidd, fel yr un yn Ne Affrica. Ond yn anffodus, gan nad oes gennym ni lawer o arian, allwn ni ddim defnyddio’r cwch am amser maith, a’r hyn sy’n talu am y rhan fwyaf o’r arolygon mewn gwirionedd yw rhoddion ariannol gan bobl sy’n mentro ar y môr gyda ni. I lwyr ddeall yr hyn sy’n digwydd yn y môr, rydyn ni angen cymorth i barhau â’r gwaith monitro yn yr hirdymor. A chan fod y Mesur Morol ar y trothwy, sut allwn ni wneud y penderfyniadau iawn heb gael gafael ar wybodaeth o’r fath?

Cangen o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yw’r Sea Trust. Mudiad gwirfoddol a chymunedol ydyw wedi’i leoli yn Sir Benfro.

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen