Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Gwobrau Ffotograffiaeth – British Wildlife Photography Awards (BWPA)

GALW AM GYSTADLEUWYR
Hoffech chi ennill cystadleuaeth flaenllaw lle ceir gwobrau o hyd at gyfanswm o £20,000, yn ogystal â chael cynnwys eich gwaith mewn arddangosfa genedlaethol ac mewn llyfr?

HareⓗElliot Neep

Ar ôl llwyddiant ysgubol y gystadleuaeth gyntaf, ac ar ôl cynnal arddangosfa o’r radd flaenaf a oedd yn cynnwys ffotograffau’n dathlu bywyd gwyllt Prydain, mae BWPA bellach wedi lansio ail gystadleuaeth o’r fath. A gallwch gymryd rhan ynddi o 21 Ionawr ymlaen.

Pwrpas y gystadleuaeth yw dathlu a chydnabod talentau ffotograffwyr o bob cenedl sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig, gan dynnu sylw hefyd at gyfoeth ac amrywiaeth byd natur Prydain. Nod BWPA yw adeiladu ar eu llwyddiant diweddar, ac o’r herwydd maen nhw wedi cyflwyno nifer o gategorïau newydd. Mae’r rhain yn cynnwys gwobr arbennig am ffotograffau’n ymwneud â chadwraeth, yn ogystal â chategori ar gyfer bioamrywiaeth a rhywogaethau cynhenid sydd dan fygythiad ym Mhrydain. Y bwriad wrth wneud hyn yw adlewyrchu’r ffaith fod y Cenhedloedd Unedig wedi enwi 2010 yn Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth.

Y Cenhedloedd Unedig yn enwi 2010 yn Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth
Yn ystod y flwyddyn pan fydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol yn tynnu sylw at yr holl rywogaethau sy’n diflannu ar hyd a lled y byd, mae BWPA wedi penderfynu cyflwyno categori newydd yn ymwneud â bioamrywiaeth Prydain. Mae Natural England, sef y corff sy’n cynnig cyngor i’r llywodraeth ynglŷn â’r amgylchedd naturiol, yn noddi’r categori yma - a’r nod yw canolbwyntio ar rywogaethau cynhenid sy’n gorfod ymdrechu’n galed i oroesi.

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn noddi’r Categori Bywyd Gwyllt yn eich Iard Gefn.

Y Categori ‘Cadwraeth’ – 2020VISION
Mae’r wobr newydd yma ar gyfer Cadwraeth, a noddir gan y Wild Media Foundation, yn annog ffotograffwyr i ddefnyddio dull ychydig yn wahanol o dynnu lluniau. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i’r ffotograffydd a all ddangos ei fod wedi deall thema neu stori gyfredol yn ymwneud â chadwraeth ac a all gyflwyno portffolio o hyd at 8 o ffotograffau’n arddangos y pwnc/pynciau dan sylw mewn ffordd greadigol.

WrenⓗDavid Norton

Er mwyn tanio’r dychymyg mae deg o gategorïau wedi’u creu, yn ogystal â dwy wobr arbennig i annog pobl ifanc, ysgolion a grwpiau ieuenctid cymunedol i gymryd rhan.

Mae gwobrau o hyd at gyfanswm o £20,000 i’w cael, a bydd y prif enillydd yn cael gwobr o £5,000. Hefyd, fe fydd y lluniau a ddaw yn agos i’r brig yn cael eu cynnwys mewn arddangosfeydd cenedlaethol, gan gynnwys achlysur lansio a gwobrwyo yn Llundain yn ystod Hydref 2010. Nod y gwobrau yw gosod y safon ar gyfer ffotograffau bywyd gwyllt ym Mhrydain ar gyfer sawl blwyddyn i ddod.

Y Prif Wobrau

  • Y Prif Enillydd £5,000
  • Y Ffotograffydd Ifanc Gorau (dan 18 oed) £500
  • Ysgolion a Grwpiau Ieuenctid Cymunedol (dan 18 oed) £1,000

Y Categorïau:
Bydd enillydd pob categori’n cael gwobrau a fydd yn werth cyfanswm o oddeutu £1,000.

Gwobr Arbennig 2020VISION
Bydd yr enillydd yn cael lle ar dîm 2020VISION, yn ogystal â thâl llawn am gyflawni gwaith comisiwn o fewn y Deyrnas Unedig.

Dyma’r categorïau:

ShagⓗCraig Jones

1. Lluniau o anifeiliaid
2. Ymddygiad anifeiliaid

3. Bywyd gwyllt trefol

4. Prydain gudd
5. Yr arfordir a’r môr
6. Bywyd gwyllt fy iard gefn
7. Cynefin
8. Tymhorau Prydain
9. Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth
10. Gwobr Arbennig 2020VISION

Dyddiadau
Gallwch gystadlu o 21 Ionawr ymlaen. Y dyddiad cau yw 4 Mehefin 2010. Gallwch gyflwyno’ch gwaith ar-lein neu drwy’r post.

Mwy o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth – gan gynnwys sut i gystadlu, disgrifiad llawn o’r categorïau, awgrymiadau, ac amodau a thelerau – ewch i wefan y gystadleuaeth: www.bwpawards.org.

Noddir gan Natural England, sef y corff sy’n cynnig cyngor i’r llywodraeth ynglŷn â’r amgylchedd naturiol.

Cefnogir gan: The Wildlife Trusts, Scottish Natural Heritage, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, The National Trust for Scotland, a’r Outdoor Photgraphy Magazine.

Nodiadau ar gyfer golygyddion

A wnewch chi gynnwys y cyfeiriad gwe yma: www.bwpawards.org.
Nodwch pwy yw’r ffotograffwyr.
I gael lluniau a mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol;
Maggie Gowan:
Ffôn symudol: 07767 337 359
E-bost: mail@maggiegowan.co.uk

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen