Canu’n Iach I’n Cadeirydd
Ar ôl deng mlynedd o arwain Cyngor Cefn Gwlad
Cymru, fe fydd John Lloyd Jones, yn cadeirio ei gyfarfod Cyngo olaf
Ddydd Llun 22 Chwefror 2010.
Ffermwr o Dywyn, Gwynedd yw John Lloyd Jones, a daeth yn
Gadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad yn y flwyddyn 2000.Yn y gorffennol,
mae wedi bod yn Gadeirydd NFU Cymru ac yn aelod o Barc Cenedlaethol
Eryri. Mae wedi’i benodi bellach yn Aelod o Fwrdd Cenedlawthol y
Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru.
Wrth edrych yn ôl dros ei gyfnod fel Cadeirydd y Cyngor Cefn
Gwlad, dyma a ddywedodd John Lloyd Jones:
“Rydw i’r un mor argyhoeddedig ag erioed mai’r ffordd orau o
lwyddo yw cael ffermwyr a’r sector amgylcheddol i gydweithredu. Mae
dau faes arbennig yn enghreifftiau perffaith o hyn – mae ein
profiad o gyflwyno hawliau mynediad ar dir agored wedi dangos pa
mor werthfawr yw gweithio gyda’n gilydd; ac, wrth gwrs, ddylen ni
ddim anghofio am redeg cynllun Tir Gofal ar ran Llywodraeth y
Cynulliad. Mae’r meysydd allweddol yma wedi helpu staff y Cyngor
Cefn Gwlad a ffermwyr i ddeall ei gilydd yn well. Gobeithio y
gallwn ni adeiladu ar hyn wrth helpu i greu Glastir, sef y cynllun
amaeth-amgylcheddol newydd.
“Yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd, rydyn ni wedi dysgu llawer
mwy am y cyfraniad mae cefn gwlad a’r awyr agored yn ei wneud at
iechyd a’r economi, ac o bwysigrwydd cynyddol parciau trefol a
gwyrddfannau.
“Fodd bynnag, yr agoriad llygad mwyaf i mi oedd amgylchedd y
môr. Cyn imi ddechrau ar fy swydd fel Cadeirydd, doeddwn i’n gwybod
dim byd amdano – er ’mod i’n gallu gweld y môr o ffenest y gegin!
Ond mae’r môr wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith, a bydd yn parhau
i fod felly yn y dyfodol wrth inni geisio rhoi Deddf y Môr ar waith
yma yng Nghymru.”
Meddai Roger Thomas, Prif Weithredwr y Cyngor Cefn Gwlad:
“Mae John Lloyd Jones wedi bod yn gaffaeliad mawr i’r sefydliad,
ac fe hoffwn ddiolch o galon iddo am ei waith caled a’i ymroddiad.
Mae’r sefydliad yma’n bur wahanol heddiw i’r hyn oedd o ddeng
mlynedd yn ôl pan gafodd John ei benodi – yn wir, mae o wedi bod yn
feistr wrth y llyw. Mae wedi ein helpu i gyflawni prosiectau
allweddol ar ran Llywodraeth y Cynulliad, er enghraifft Tir Gofal,
Mynediad Agored, dynodi Safleoedd Ewropeaidd – Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig i enwi dim ond rhai. Ac mae ei ymrwymiad wedi sicrhau bod
y Cyngor Cefn Gwlad yn dal i fod ar flaen y gad o safbwynt gwarchod
amgylchedd Cymru.”
Bydd Morgan Parry, Cadeirydd newydd y Cyngor Cefn Gwlad, yn
dechrau ar ei swydd ar 1 Mawrth, a hynny am dair blynedd.
DIWEDD
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Meinir Wigley ar 07720
428644
Nodiadau i Olygyddion
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor
Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn
trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy
o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk.