Y Cyngor yn taclo chwistrell fôr oresgynnol yn harbwr
Caergybi
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi dechrau ar waith
a fydd yn cael gwared â chwistrell fôr oresgynnol o harbwr Caergybi
– chwistrell sy’n bygwth bywyd gwyllt morol brodorol Cymru.
Y chwistrell ymledol, Llun gan Ronan Holt©CCGC
O Japan y daw’r chwistrell fôr garped (Didemnum vexillum) yn
wreiddiol, ond mae wedi cartrefu ar fwiau angori, cadwyni angori a
phontynau arnofiol y marina. Heb gymryd camau i gael gwared â hi mi
allai ymledu’n gyflym, gan gytrefu mewn cynefinoedd naturiol a
bygwth diwydiant cregyn gleision Y Fenai.
Yn ôl pob tebyg, daeth y chwistrell fôr i’r harbwr ar gyrff
llongau pleser.
Yn ystod gaeaf 2009, gwnaeth y Cyngor waith peilot i geisio cael
gwared â’r chwistrell. Gan adeiladu ar y profiad hwnnw, yn awr bydd
staff morol y Cyngor yn gweithio i gael gwared â’r creadur yn
llwyr.
Mae’r gwaith yn cynnwys gosod bagiau anferth o amgylch
strwythurau tanddwr y marina. Trwy rwystro dŵr glân rhag cyrraedd y
chwistrellau, maen nhw’n mygu ac yn marw. Os bydd y dechneg yma’n
llwyddiannus, efallai y bydd y Cyngor yn cynghori ardaloedd eraill
yn y DU ynglŷn â sut i gael gwared â’r rhywogaeth.
Mae cymorth perchnogion Marina Caergybi drwy gefnogi’r cynllun
yn werthfawr iawn.
Y nod yw cael gwared â’r chwistrell o’r harbwr yn llwyr erbyn
gwanwyn 2012, cyn iddi allu ymledu’n gyflymach yn ystod y gwanwyn
a’r haf.
Deifiwr yn gosod bag anferth i fygu'r chwistrell ymledol,
marina Caergybi. Llun gan Ronan Holt©CCGC
Yn ôl Rohan Holt, biolegydd môr y Cyngor a’r sawl sy’n rheoli’r
prosiect: “Os llwyddwn ni i gael gwared â’r chwistrell fôr, mi
wnawn ni ein gorau glas i sicrhau na fydd yn ailgartrefu yma. Mae
hyn yn golygu y bydd angen monitro marina Caergybi, marinas eraill
ac ardaloedd angori ledled Cymru i wneud yn siŵr nad yw hi wedi
ailymddangos.
“Rhan bwysig o hyn fydd rhoi canllawiau i berchnogion cychod
bach ynglŷn â sut y gallan nhw helpu, yn ogystal ag archwilio’n
rheolaidd.”
Ydych chi wedi gweld y creadur hwn?
- Chwistrell fôr ‘sbyngaidd’ yw Didemnum vexillum, ac mae fel
lledr i’r cyffyrddiad. Nid yw’n llysnafeddog.
- Mae ganddi liw arbennig – mwstard neu oren/melyn gwan, neu
felynllwyd.
- Mae’r chwistrell i’w gweld yn aml ar ffurf smotiau fflat golau,
neu fel cwyr yn diferu oddi ar strwythurau artiffisial sydd yn
union dan lefel y dŵr.
- Mae ganddi fandyllau a gwythiennau tebyg i wythiennau
dail.
Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Uned Ymholiadau’r Cyngor
ar:
0845 1306229.
Diwedd
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Cysylltwch â Helen Evans, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus y
Cyngor ar 01248 387377 / 07717225589 neu h.evans@ccw.gov.uk i gael
mwy o wybodaeth.
Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ac
mae’n gweithio i greu Cymru well lle mae pawb yn trysori ein
hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth
am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk.
Erthyglau Perthnasol ….
Gwefannau Eraill...
YouTube
Mae’r
Cyngor Cefn Gwlad wedi dechrau ar waith a fydd yn cael gwared â
chwistrell fôr oresgynnol o harbwr Caergybi
YouTube
Rohan
Holt, biolegydd môr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn trafod y chwistrell
fôr - sut i'w hadnabod, ei heffeithiau a sut i'w rheoli