Y Cyngor Cefn Gwlad yn croesawu Cadeirydd newydd
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n falch dros ben
fod Morgan Parry wedi ei benodi’n Gadeirydd newydd am y tair
blynedd nesaf.
Wrth gyfeirio at y sialensiau sydd i ddod, dywedodd Morgan
Parry: “Mae mwy o bwysau nag erioed ar yr amgylchedd ac mae yna
ymwybyddiaeth gynyddol nad yw natur yn ffynhonnell ddi-ddiwedd o
gynnyrch a gwasanaethau. Mae’n bwysicach nag erioed fod yr
amgylchedd yn cael ei ystyried ym mhenderfyniadau pob maes a chan
bobl yn gyffredinol.
“Mae gan y Cyngor Cefn Gwlad dasg enfawr ar hyn o bryd, wrth
geisio sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n hamgylchedd naturiol. Allwn
ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain – mae’n hanfodol fod y
Cyngor yn ysgogi cefnogaeth eang i’w waith. Rwyf yn edrych ymlaen
at ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i gydweithio
â ni.”
Ac meddai Roger Thomas, Prif Weithredwr y Cyngor Cefn Gwlad:
“Mae gan Morgan brofiad helaeth yn y sector gwirfoddol a chyhoeddus
– a safbwynt byd-eang o ganlyniad i flynyddoedd o weithio gyda’r
World Wildlife Fund. Fe fydd, yn llywio gwaith y Cyngor Cefn Gwlad,
gan adeiladu ar yr hyn y mae John Lloyd Jones, ei ragflaenydd, wedi
ei gyflawni. Edrychwn ymlaen at elwa ar ei egni a’i berspectif
newydd wrth wynebu’r sialensau o’n blaenau.”
Fe gafodd penodiad Morgan Parry ei groesawu gan y cadeirydd
presennol, John Lloyd Jones. 'Mae gan Morgan Parry brofiad
gwerthfawr, yn arbennig o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Wrth
iddo ddod â hwnnw gydag ef i’r Cyngor Cefn Gwlad, fe fyddaf innau’n
teimlo’n hyderus wrth adael y sefydliad mewn dwylo diogel ar gyfer
yr adegau llawn sialens sydd o’n Blaenau”.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Evans, Swyddog y
Wasg, ar 01248 387377 neu 07717225589. Rhowch wybod inni os ydych
yn dymuno cyfweld Morgan Parry.
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw'r Cyngor Cefn
Gwlad, ac mae'n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori
ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o
wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk.