Ymgynghoriad Bae Lerpwl ar fin dod i ben
Mae cyfle o hyd ichi gyflwyno sylwadau ar y
cynnig i ddynodi Bae Lerpwl yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar
sail yr adar sydd i’w cael yno. Y dyddiad cau yw Dydd Gwener 26
Chwefror 2010.

Os caiff Bae Lerpwl statws AGA, fe fyddai’r safle’n dod yn rhan
o rwydwaith Ewropeaidd o ardaloedd dan warchodaeth – rhwydwaith o’r
enw Natura 2000. Pwrpas y dynodiad yma yw gwarchod rhai o ardaloedd
bywyd gwyllt pwysicaf Ewrop.
Bae Lerpwl yw un o’r ardaloedd pwysicaf ym Mhrydain i fôr-hwyaid
duon a throchyddion gyddfgoch sy’n treulio’r gaeaf ar ddyfroedd yr
arfordir.
Bydd yr adborth a gawn ar yr AGA arfaethedig yn helpu i
ffurfio’r cynnig terfynol y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei
roi gerbron y Comisiwn Ewropeaidd yn ddiweddarach eleni.
I gael mwy o wybodaeth am y cynnig a sut i gyflwyno sylwadau
ewch i
http://www.ccw.gov.uk/landscape--wildlife/protecting-our-landscape/liverpool-bay-pspa.aspx
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Helen Evans,
Swyddog y Wasg, 01248 387377 neu 07717225589.
Corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor
Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn
trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod.