Gwarchodaeth Ewropeaidd I Fywyd Gwyllt Yr Aber
Ddoe, cyhoeddwyd fod dau o aberoedd mwyaf
Cymru bellach yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a hynny er mwyn
gwarchod eu bywyd gwyllt.

Mae aberoedd Dyfrdwy a Hafren – sy’n gorwedd ar y ffin rhwng
Cymru a Lloegr – ymhlith yr aberoedd gorau trwy Ewrop ar sail y
cynefinoedd a’r rhywogaethau amrywiol sydd ynddyn nhw. Mae’r ddau
aber yn cynnal poblogaethau pwysig o bysgod ymfudol, ac mae’r
gwastadeddau llaid, y gwastadeddau tywod a’r morfeydd eang yn
cynnal llu o bysgod ac adar dŵr sy’n treulio’r gaeaf yno.
Wrth groesawu’r penderfyniad, dyma a ddywedodd Dr David Parker,
Cyfarwyddwr y Gwyddorau o fewn y Cyngor Cefn Gwlad:
“Dyma newyddion da i fioamrywiaeth Cymru. Ar
ôl dynodi’r ddau aber yma, mae gennym ni 92 o Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig (ACA) yng Nghymru sy’n gorchuddio 628,000 hectar o’r wlad
– 7 o’r rhain yn safleoedd morol. A’r nod ym mhob achos yw gwarchod
y cynefinoedd a’r rhywogaethau morol prin sydd dan fygythiad.”
Yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, fe fydd y Cyngor Cefn Gwlad a
Natural England yn ysgrifennu at dirfeddianwyr, awdurdodau lleol a
budd-ddeiliaid eraill i gadarnhau’r manylion.
Meddai Dr Parker:
“Mae dynodi’r ACA yma yn benllanw proses
ymgynghori faith a ddechreuodd ar yr Hafren yn 1995. Wrth gwrs,
mae’r gyfraith wedi gwarchod y ddau safle ers cryn amser, felly yn
ôl pob tebyg fydd y cam terfynol yma ddim yn effeithio’n sylweddol
ar y ffordd y caiff gweithgareddau masnachol a gweithgareddau
hamdden eu rheoli.”
Yr un pryd â chadarnhau’r ddwy Ardal Cadwraeth Arbennig, mae
Gweinidogion Cymru a Lloegr wedi cadarnhau newidiadau i ddynodiad
Aber Dyfrdwy fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig ar sail yr adar a geir
yno ac fel gwlyptir pwysig dan y confensiwn gwlyptiroedd
rhyngwladol.
Ffeithiau am Fôr Hafren
- Dyma un o’r aberoedd mwyaf yn Ewrop. Mae’r ardal cadwraeth bron
iawn yn 74,000 hectar o faint – oddeutu’r un maint ag Ynys Môn. Mae
dwy ran o dair o’r ardal dan y dŵr, ac mae’r traean sy’n weddill yn
gynefinoedd rhynglanwol.
- O fewn yr aber ceir yr amrediad llanw mwyaf ond un drwy’r byd –
mwy na 12 metr – ac mae siâp twmffat yr aber yn helpu yn hyn o
beth. Y siâp yma sydd wedi arwain at un o ryfeddodau naturiol mwyaf
ysblennydd Prydain, sef Eger Hafren – ymchwydd mawr y gellir ei
weld o fewn yr aber.
- Caiff mwy na 90,000 o adar eu denu at y llaid, y tywod a’r
morfa a ddaw i’r golwg yn ystod y gaeaf pan fydd y llanw ar drai.
Mae llaid yr aber ddwywaith yn fwy ffrwythlon na’r tir fferm gorau,
ac mae myrdd o greaduriaid diasgwrn-cefn yn ffynnu ynddo. Yn eu
tro, mae’r rhain yn cynnig gwledd i nifer o adar dŵr yn y gaeaf ac
ystod eu hymfudiad yn y gwanwyn a’r hydref – adar fel pibyddion y
mawn, pibyddion coesgoch, gylfinirod, cwtiaid torchog a hwyaid yr
eithin.
- Mae’r aber a’i isafonydd yn ardal bwysig i bysgod ymfudol
hefyd, er enghraifft llysywod pendoll yr afon a llysywod pendoll y
môr, ac maen nhw hefyd yn hwyluso gwangod i gyrraedd rhai o’u
safleoedd magu pwysig olaf yn y Deyrnas Unedig. Yr aber yma, yn
anad yr un arall trwy Brydain, sydd â’r nifer fwyaf o bysgod
amrywiol – mae’n feithrinfa bwysig i bysgod ifanc ac yn cefnogi
pysgodfeydd eogiaid sy’n bwysig yn economaidd. Yn ogystal, dyma’r
aber pwysicaf ym Mhrydain o safbwynt llysywod.
- Dan y don, dim ond anifeiliaid a phlanhigion arbenigol a all
oddef yr amodau eithafol. Pam? Wel, gan fod rhai o’r cerhyntau
llanwol cryfaf drwy’r Deyrnas Unedig i’w cael yma. Trwy Brydain i
gyd, dim ond ym Môr Hafren y mae riffiau islanwol mawr o lyngyr
diliau i’w cael.
Ffeithiau am Aber Dyfrdwy
- Aber Dyfrdwy yw’r aber mwyaf ond pump drwy’r Deyrnas Unedig, ac
mae’n fwy na 14,000 hectar o faint – yn fras, tua’r un maint â
Chaerdydd.
- Pan fydd y llanw ar drai yn ystod y gwanwyn, mae 90% o’r aber
yn sychu a bydd llecynnau mawr o wastadeddau llaid a gwastadeddau
tywod yn dod i’r golwg. Mae’r llecynnau yma’n gartref i nifer o
greaduriaid di-asgwrn-cefn, gan gynnwys pryfed genwair a
chregynbysgod sydd, yn eu tro, yn ffynhonnell fwyd werthfawr i adar
a physgod.
- Yn ystod y gaeaf, mae’r aber yn gartref i 120,000 o adar
hirgoes ac adar dŵr, gan wneud y safle’n un o’r gwlyptiroedd
pwysicaf i adar trwy Gymru gyfan. Mae hwyaid (fel hwyaid yr eithin,
hwyaid llostfain a chorhwyaid) yn bwydo ar y dyfroedd agored a’r
morfeydd, ond mae’n well gan yr adar hirgoes (er enghraifft
gylfinirod, rhostogod cyffonddu a piod mor) ddefnyddio’u pigau hir
i dyllu i’r llaid am fwyd.
- Mae’r aber yn safle magu pwysig i bysgod arfordirol, a hefyd yn
lloches ac yn feithrinfa bwysig iddyn nhw. Ymhellach, mae’n
gysylltiad hollbwysig i bysgod sydd â safleoedd magu yn Afon
Dyfrdwy, gan gynnwys eogiaid, gwyniaid, brwyniaid Conwy, gwangod a
llysywod, yn ogystal â llysywod pendoll y môr a llysywod pendoll yr
afon.
- Weithiau, gellir gweld hyd at 500 o forloi llwyd wrth ymyl Ynys
Hilbre.
- Mae’r ACA yn cynnwys twyni tywod a oedd, ers talwm, yn helaeth
iawn ac a arferai ymestyn ar draws arfordir gogledd-ddwyrain Cymru
i gyd. Mae’r twyni sydd i’w cael yno heddiw yn cynnal amrywiaeth
cyfoethog o blanhigion, gan gynnwys llysiau’r afu petalog
prin.
Yn ôl Dr Maggie Hill, Rheolwraig Ranbarthol De a Dwyrain
Cymru
“Mae’n gwbl glir pam mae’r ardaloedd yma mor
bwysig o ran gwarchod ein bywyd gwyllt. Yn awr, rhaid i ni chwarae
ein rhan trwy ddangos pa mor bwysig yw’r ardaloedd yma i’r
amgylchedd, yn ogystal â sicrhau eu bod yn llefydd y gall pobl eu
mwynhau a’u bod yn cyfrannu at economi Cymru.”
DIWEDD
I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â’r
canlynol:
Helen Evans ar 01248 385500 neu Brân Devey ar 02920
772403
Mwy o nodiadau ar gyfer golygyddion
Dynodiadau bywyd gwyllt Ewropeaidd a
rhyngwladol
• Caiff Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eu dynodi dan
Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau’r Undeb Ewropeaidd (1992).
Mae’r rhain, ynghyd ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a
ddynodir dan Gyfarwyddeb Adar 1979, yn ffurfio rhwydwaith o
safleoedd ar draws holl aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd (27
i gyd), a elwir yn safleoedd Natura 2000. Pwrpas rhwydwaith Natura
2000 yw ceisio rhoi stop ar golli bioamrywiaeth trwy gynnal neu
adfer amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau a sicrhau eu bod
mewn statws cadwraethol ffafriol. Ar hyn o bryd, ceir oddeutu 870 o
safleoedd Natura 2000 yn y Deyrnas Unedig, a mwy na 28,000 yn yr
Undeb Ewropeaidd i gyd. Nid yw safleoedd Natura 2000 yn safleoedd
gwaharddedig nac yn warchodfeydd natur a gaiff eu rheoli’n llym;
ond maen nhw’n rheoli gweithgareddau a allai fod yn niweidiol, a
hynny er mwyn gwarchod y cynefinoedd a’r rhywogaethau
pwysig.
• Cytundeb byd-eang sydd â’r nod o warchod gwlyptiroedd
a’u rhywogaethau rhag cael niwed o du datblygiadau, llygredd a
gorddefnydd yw’r Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd
Rhyngwladol. (Yn aml, caiff ei alw’n Gonfensiwn Ramsar ar ôl y dref
yn Iran lle cafodd ei arwyddo yn 1971.) Fel un sydd wedi arwyddo’r
confensiwn, mae’r Deyrnas Unedig wedi dynodi 146 o safleoedd
Ramsar. Er nad yw’r gyfraith yn gwarchod safleoedd o’r fath i’r un
graddau ag ACA ac AGA, yn ôl polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig a
Llywodraeth y Cynulliad dylid trin safleoedd Ramsar yn yr un ffordd
ag ACA ac AGA.
• Mae Aber Dyfrdwy wedi bod yn Ardal Gwarchodaeth
Arbennig ac yn safle Ramsar ers nifer o flynyddoedd. Erbyn hyn,
mae’r ddau ddynodiad yma wedi’u diweddaru er mwyn ystyried yr
wybodaeth ddiweddaraf am leoliad y cynefinoedd a’r rhywogaethau
pwysig sydd i’w cael o fewn yr aber ac yn y cyffiniau.
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor
Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well
lle mae pawb yn trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk