Dirwyo dyn am chwalu safle clwydo ystlumod
Mae Ynadon Sir Gaerfyrddin wedi dirwyo dyn am
chwalu adeilad yn Wood End, Llanmilo, Pentywyn, ac yntau’n gwybod
yn iawn fod safle clwydo ystlumod i’w gael yno.
.jpg)
Cafodd y dyn ddirwy o £1000 am chwalu safle clwydo ystlumod
lleiaf ac ystlumod hirglust, ynghyd â £500 o gostau, ar ôl iddo
bledio’n euog i dorri Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol)
1994 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Yn ôl Steven Lucas, Swyddog Rhywogaethau a Bioamrywiaeth y
Cyngor Cefn Gwlad: “Mae ystlumod lleiaf ac ystlumod hirglust mewn
perygl a dan fygythiad a meant wedi eu gwarchod gan ddeddfwriaeth
Ewropeaidd a’r DU. Dylai’r erlyniad yma fod yn rhybudd i eraill ei
bod hi’n drosedd torri is-ddeddfau sy’n gwarchod y rhywogaethau
yma.”
Ychwanegodd: “Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn awyddus i weithio’n
agos efo’r diwydiant adeiladu a datblygwyr i gael cydbwysedd rhwng
buddiannau’r gwaith datblygu a buddiannau’r rhywogaethau pwysig
sy’n cael eu gwarchod, gan geisio atal troseddau rhag cael eu
cyflawni. Ond rydym yn ddiolchgar i Wasanaeth Erlyn y Goron am fwrw
ymlaen efo’r achos yma a chael canlyniad llwyddiannus.”
Caiff pob ystlum ei warchod dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a
Chefn Gwlad 1981. Golyga hyn ei bod hi’n anghyfreithlon i rywun
ladd, anafu, cymryd neu darfu ar ystlumod yn fwriadol, neu niweidio
neu ddinistrio’u safle clwydo. Gan fod ystlumod yn tueddu i
ddychwelyd i’r un safle clwydo bob blwyddyn, mae’r safleoedd yma’n
cael eu gwarchod boed ystlumod i’w cael ynddyn nhw, ai peidio.
Mae ystlumod yn clwydo mewn amryw o lefydd, gan gynnwys mewn
adeiladau a thoeau. Gallwch ddod o hyd iddynt unrhyw adeg o’r
flwyddyn; ond yn ystod yr haf y maen nhw i’w gweld amlaf, pan fydd
rhai rhywogaethau’n sefydlu cytrefi bridio.
I gael cyngor a gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud os oes
gennych ystlum yn eich to, cysylltwch â thîm ymholiadau’r Cyngor ar
0845 1306 229 neu archebwch gopi o ‘Ystlumod mewn Toeau’ ar wefan
Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
DIWEDD
- I gael mwy o wybodaeth am y datganiad hwn, ffoniwch Delyth
Willis, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Rhanbarthol y Cyngor Cefn
Gwlad, ar 029 2077 2455, neu anfonwch e-bost at
d.willis@ccw.gov.uk.
- Cynghorwr annibynnol y llywodraeth yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ac
mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori ein
hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth
am ein gwaith ar www.ccw.gov.uk
- Hugh Clark tynnodd lun yr ystlym.