Pump o Warchodfeydd Natur Lleol Newydd ym Mlaenau Gwent
Erbyn hyn, mae trigolion Blaenau Gwent o fewn
cyrraedd i warchodfa natur, gan fod Cyngor Blaenau Gwent wedi
dynodi pump o Warchodfeydd Natur Lleol newydd.

Nid y rhywogaethau prinnaf, o angenrheidrwydd, sydd i’w cael
mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol; ond mewn sawl ardal, gwarchodfeydd
o’r fath yw’r ychydig wyrddfannau sydd ar gael i bobl allu cerdded
neu fwynhau natur ynddyn nhw. Hefyd, maen nhw’n helpu i warchod y
byd natur sydd i’w gael wrth ymyl tai, gan gynnig profiad dysgu yn
yr awyr agored i blant ysgol ac oedolion fel ei gilydd.
Gan weithio gyda Chngor Cefn Gwlad Cymru mae Cyngor Blaenau
Gwent, wedi dynodi pum ardal sydd bron yn 300 hectar mewn maint –
sy’n gyfwerth a 276 o gaeau pel droed. Y gwarchodfeydd sydd wedi’u
dynodi yw:
- Pwll a Choetir Bryniau Beaufort/Beaufort Hills Pond and
Woodland
- Llynnoedd Cwmtyleri/Cwmtillery Lakes
- Parc Bryn Bach
- Parc Nant y Waun
- Coetiroedd Bryn Sirhywi a Phwll Caerdydd/Sirhowy Hill Woodlands
and Cardiff Pond
Yn ôl y Cyng Don Wilcox, yr Aelod Gweithredol dros Adfywiad yng
Nghyngor Blaenau Gwent:
“Rydyn ni’n falch iawn o gael lle mor eithriadol o hardd ar
garreg ein drws – rhywle y bydd modd i’r hen a’r ifanc ei
fwynhau.
“Tan yn ddiweddar, dim ond un Warchodfa Natur Leol a oedd gennym
ni, sef Silent Valley ger y Cwm. Yn sicr, fe fydd y gwarchodfeydd
natur newydd yma’n rhoi hwb i’r ardal trwy roi cyfle i drigolion
lleol ac ymwelwyr wella’u hiechyd ac ansawdd eu bywydau.
“Rydym yn ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr sydd yn ein helpu ar y
gwarchodfeydd ac rydym yn gweithio’n agos â phartneriaith
Bioamrywiaeth Blaenau Gwent yn ogystal â grwpiau cymunedol lleol
gan gynnwys Ymddiriedolaeth Datblygu Tredegar, Pathways, Ffrindiau
Parc Nant y Waun, Rhwydwaith Gweithredu Amgylcheddol Llynnoed
Cwmtyleri (CLEAN) a Chymdeithas Gadwraeth Pwll a Choetir Bryniau
Beaufort. Diolch iddynt oll.”
Medd John Lloyd Jones, Cadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad:
“Mae dynodi’r pum ardal yma’n Warchodfeydd Natur Lleol yn arwydd
o’r holl waith rhagorol sy’n cael ei wneud gan Flaenau Gwent i
reoli nodweddion naturiol eithriadol y sir fel y gall pob un ohonon
ni eu mwynhau. Mae nifer o’r safleoedd yma wedi dal eu gafael yn eu
hanes, gan alluogi’r ymwelwyr i weld yr hen a’r newydd ochr yn ochr
â’i gilydd.”
Fe fydd Cyngor Blaenau Gwent yn rheoli’r gwarchodfeydd newydd
yma ar y cyd â’r Cyngor Cefn Gwlad. Mae gan bob Gwarchodfa gynllun
rheoli er mwyn gwneud yn siŵr y bydd modd datblygu’r safleoedd er
budd bywyd gwyllt a phobl.
Pam nad ewch chi am dro i Warchodfa Natur Leol yn ystod Wythnos
Bioamrywiaeth Cymru, sy’n cael ei chynnal rhwng 6 a14 Mehefin neu
ewch am dro i un o’r digwyddiadau dathlu sydd wedi eu trefnu ar
gyfer Dyy Sul, 28 Mehefin yn Llynnoedd Cwmtyleri neu Ddydd Mercher
8 Gorffennaf ym Mharc Nant y Waun.
Gallwch gael gwybodaeth am Warchodfeydd Natur Lleol Cymru ar
wefan y Cyngor Cefn Gwlad www.ccgc.gov.uk. Os hoffech fwy o
fanylion neu ymwneud a rheolaeth ar un o’r Gwarchodfeydd Natur
Lleol, yna cysylltwch â Claire Pooley, Ecolegydd neu Caroline
Matthews, Swyddog Prosiect Amgylcheddol ar 01495 355850.
DIWEDD
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Meinir Wigley, Uwch-swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus ar 07720
428644.
Tim Cyfarthrebu a Marchnata, Cyngor Blaenau Gwent ar 01495
356004 neu media@blaenau-gwent.gov.uk
Mwy o wybodaeth am y Gwarchodfeydd Natur
Lleol
Pwll a Choetir Bryniau Beaufort/Beaufort Hills Pond and
Woodland
Lleolir y Warchodfa yma ar lethr esmwyth ar gyrion Dyffryn
Clydach, rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog tua’r gogledd a
Brynmawr a Beaufort tua’r de. Yn y gorffennol, diwydiannau trwm a
welid ar y safle – yn wir, roedd chwarela a chloddio am haearn a
glo yn digwydd ar draws y safle i gyd. Cafodd y cronfeydd dŵr mawr
eu hadeiladu er mwyn darparu dŵr ar gyfer y gweithgareddau yma. Pan
ddaeth yr holl gloddio i ben, cafodd y tir ei adfer. Roedd y gwaith
yma’n cynnwys ailfodelu a thirlunio’r holl safle.
Erbyn hyn, mae’r Warchodfa’n werthfawr iawn o safbwynt bywyd
gwyllt. Yn wir, mae arolygon wedi dangos bod nifer o famaliaid, gan
gynnwys ystlumod a dyfrgwn (a gaiff eu gwarchod gan y gyfraith) i’w
cael yma, yn ogystal â deuddeg o fathau gwahanol o loÿnnod byw a
naw o fathau gwahanol o fursennod, gan gynnwys y fursen dinlas
brin.
Yn sgil yr holl waith sydd wedi’i wneud i blannu coed a chynnal
a chadw llwybrau, pontydd, giatiau ac arwyddion, mae’r Warchodfa
bellach yn adnodd pwysig i’r gymuned leol. Caiff y safle ei
ddefnyddio’n bennaf ar gyfer gweithgareddau hamdden, fel cerdded,
gwylio adar, pysgota, ac weithiau marchogaeth.
Llynnoedd Cwmtyleri/Cwmtillery Lakes
Mae’r rhan fwyaf o’r Warchodfa, sydd dri chilomedr i’r gogledd o
Abertyleri, wedi’i chreu trwy gyfrwng cynllun adfer tir ar safle
hen fwynglawdd. Cafodd y llyn ei hun ei greu i ddarparu dŵr ar
gyfer y gweithgareddau mwyngloddio.
Ar y safle ceir brithwaith cyfoethog o gynefinoedd, gan gynnwys
glaswelltiroedd, gweundiroedd, coetiroedd a dŵr agored. Yn eu tro,
mae’r cynefinoedd yma’n cynnal amrywiaeth o rywogaethau â
blaenoriaeth a rhywogaethau dan warchodaeth. Mae’r glaswelltiroedd,
y coetiroedd a’r gwrychoedd yn cynnig safleoedd clwydo a fforio i
wahanol fathau o ystlumod. Hefyd, mae gwyfyn Gwent i’w gael yma,
sef gwyfyn na welir mohono ond ar ambell safle arall yn y DU.
Parc Bryn Bach
Ers talwm, roedd Parc Bryn Bach yn rhan o rwydwaith o byllau
glo, ac mae’r Warchodfa Natur Leol yn gorwedd ar dir a gafodd ei
adfer ar ôl i’r gwaith cloddio ddod i ben yn y 1980au.
Mae nifer o blanhigion prin i’w cael ar y safle, gan gynnwys y
berwr chwerw culddail a’r clychlys dail eiddew. Yn wir, mae
arolygon wedi dangos bod pum aderyn o bryder cadwraethol yn
defnyddio’r Warchodfa, gan gynnwys yr ehedydd a’r gornchwiglen.
Mae Gwarchodfa Parc Bryn Bach wedi’i lleoli o fewn parc gwledig.
O’r herwydd, mae’r ardal yn bwysig o ran bioamrywiaeth, ond mae
hefyd yn werthfawr o safbwynt hamddena, addysg a thwristiaeth.
Parc Nant y Waun
Gorwedd y Warchodfa Natur Leol yma rhwng trefi Nant-y-glo,
Brynmawr a Beaufort, ac mae’n rhoi cyfle i drigolion lleol wneud
nifer o weithgareddau arbennig, fel cerdded, rhedeg, seiclo,
marchogaeth a physgota. Y bwriad yw gwella’r adnodd addysgol ar
gyfer ysgolion trwy greu ystafell ddosbarth awyr
agored/amffitheatr.
Mae’r Warchodfa’n cynnal amrywiaeth cyfoethog o blanhigion,
mamaliaid, adar a phryfed. Yn wir, mae mwy na 132 o fathau gwahanol
blanhigion a mwy na 38 o fathau gwahanol o adar i’w cael yma.
Coetiroedd Bryn Sirhywi a Phwll Caerdydd/Sirhowy Hill
Woodlands and Cardiff Pond
Lleolir y Warchodfa yma o boptu crib mynydd ar ben dau o
ddyffrynnoedd serth Afon Ebwy ac Afon Sirhywi. Yn y gorffennol,
câi’r rhan fwyaf o’r Warchodfa ei defnyddio fel pwll glo neu domen
wastraff. Ers i’r rhain gau yn y 1970au, mae nifer o goed wedi’u
plannu ar y safle.
Mae’r Warchodfa’n werthfawr iawn o safbwynt bioamrywiaeth y sir.
Yn wir, mae deuddeg aderyn gwahanol o bryder cadwraethol i’w cael
yma, gan gynnwys y cudyll coch a’r gnocell werdd.
Wrth gwrs, mae’r safle’n adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol.
Ceir rhwydwaith da o lwybrau, ac mae’r holl ardal ar agor i’r
cyhoedd.
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor
Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn
trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy
o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk