Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein datganiad preifatrwydd.


Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Y Fflint i gynnal digwyddiad cymunedol am ddim i ddathlu lansio Llwybr Arfordir Cymru

Bydd Y Fflint yn nodi’r agor swyddogol ar Lwybr Arfordir Cymru ar Ddydd Sadwrn, 5 Mai, gan arddangos arfordir Cymru ar ei orau.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu’r digwyddiad a dathlu’r prosiect carreg filltir cyffrous hwn i Gymru. Yn y dathlu cymunedol bydd busnesau a chynhyrchwyr bwyd a diod lleol, grwpiau o’r gymuned a diddanwyr yn dod at ei gilydd yng Nghastell y Fflint i nodi agor y llwybr arfordir sy’n 870 milltir (1400km) o hyd a hyrwyddo’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyd arfordir trawiadol Cymru.

Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn mynd o’r ffin â Lloegr yn y gogledd i Gas-gwent yn y de. Ar ôl ei agor, hwn fydd y llwybr arfordirol di-dor cyntaf yn y Byd o amgylch un wlad.

Bydd yr achlysur yn dechrau tua 11.00 y bore a bydd perfformwyr fel Côr Meibion y Fflint a Band Ceilidh Moincoin yno ar y prif lwyfan. Bydd yr adloniant i’r plant yn cynnwys gweithdai hud a lledrith ac adroddwr chwedlau yn dweud hanesion am yr arfordir.

Bydd y grwpiau a’r cyrff sy’n cynnig gwasanaethau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn hyrwyddo’u gwaith ac yn rhoi golwg ichi arno mewn ‘Arddangosfa Arfordir’ arbennig. Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod lleol hwythau yno i roi ‘Blas ar yr Arfordir’ i’r ymwelwyr wrth roi cyfle i brofi eu nwyddau a’u cynnyrch.

Fel rhan o’r dathliadau mae Cerddwyr Cymru yn trefnu’r Daith Gerdded Arfordirol Fawr Gymreig. Cynhelir teithiau cerdded ar draws Cymru i gyd-fynd â’r lansio ac anogir aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan a chael profi hyfrydwch arfordir Cymru. Ceir manylion am y teithiau cerdded sy’n cael eu trefnu ar wefan Cerddwyr Cymru (www.ramblers.org.uk).

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), un ar bymtheg o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol.

Yn ychwanegol at yr ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol ar hyd yr arfordir o tua £2 filiwn y flwyddyn, mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi dyrannu bron i £4 miliwn dros bedair blynedd i gefnogi’r prosiect.

Diwedd.


Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rhiannon Jenkins, Quadrant, ar 02920 694888 neu ebost: rhiannon.jenkins@quadrant.co

NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION

  • Bydd Llwybr Arfordir Cymru, sef 870 milltir (1,400km) o hyd, a fydd yn agor ar 5 Mai 2012, yn arwain o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.
  • Mae creu’r Llwybr yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru – gyda’r nod o ddod â budd economaidd i ardaloedd arfordirol ac annog ffyrdd o fyw egnïol. Mae gan y Llwybr rywbeth i’w gynnig i bawb – o’r rhai sy’n edrych am dro byr i’r rhai sy’n ymgymryd â’r llwybr cyfan mewn un daith, ac mae’n rhoi mynediad i nifer o weithgareddau hamdden.
  • Caiff gwelliannau pellach eu gwneud i’r llwybr, o ran aliniad, seilwaith a gwybodaeth, y tu hwnt i’r dyddiad agor.
  • Caiff cyflawni’r prosiect ei gydlynu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a chaiff ei gyflawni ar lawr gwlad gan yr awdurdodau lleol y mae’r llwybr yn mynd drwyddynt. Daw’r arian o’r Undeb Ewropeaidd (cyfanswm o tua £4 miliwn), Llywodraeth Cymru (tua £2 filiwn y flwyddyn) a’r awdurdodau lleol.

 

Ein safleoedd eraill

Dilynwch Ni

 

twitter logo

 

Dilynwch ein 'trydar'

 

Youtube Logo

 

Tanysgrifiwch i'n sianel

 

Flickr Logo

 

Porwch drwy ein galeri

 

Logo Wordpress

 

Blog Cymraeg CCGC

 

Wordpress Logo

 

CCW English Blog

       

Chwilio am Safleoedd

Chwiliad Uwch
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Mehefin 2013| Nesaf
LMMIGSS
     12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen