Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Cyfrifiad Gwyfynod yr Ardd 2009: Chwilio am wyfyn Darwin

Ar gyfer Cyfrifiad Gwyfynod yr Ardd eleni
(20-28 Mehefin 2009),
mae Cadwraeth Gloÿnnod Byw yn gofyn i arddwyr a’u teuluoedd, a’r cyhoedd yn gyffredinol, dreulio noson neu ddwy’n chwilio am wyfyn Darwin, sef y gwyfyn brith Biston betularia.

Y gwyfyn brith yw un o’r enghreifftiau gorau o esblygiad trwy ddethol naturiol – sef darganfyddiad mawr Darwin. Fe ddigwyddodd hyn oll yma ym Mhrydain, ac mae’n dal i ddigwydd hyd heddiw. Mewn dinasoedd llygredig iawn, doedd brychni golau arferol y gwyfyn brith ddim yn ei guddio’n dda iawn rhag ysglyfaethwyr, ac yntau’n glanio ar goed wedi’u duo gan barddu. Ond gwelwyd bod fersiynau du o’r gwyfyn brith yn ffynnu mewn amgylchiadau o’r fath, ac aeth y math goleuach yn eithaf prin. Yn y degawdau diwethaf, fodd bynnag, wrth i’r llygredd leihau’n raddol, mae’r fantol wedi troi.

Erbyn hyn, mae’r gwyfyn du i’w weld yn glir ar foncyffion coed sydd wedi’u gorchuddion gan gennau, ac felly mae’r gwyfyn brith wedi adennill ei le . Ond mae rhywbeth yn bod ar wyfyn Darwin. Er ei allu rhyfeddol i oroesi popeth y taflodd y chwyldro diwydiannol ato, mae nifer y gwyfynod brith ym Mhrydain wedi gostwng 61% ers diwedd y 1960au. Does neb yn siŵr beth sydd wrth wraidd y gostyngiad yma, ond rydyn ni angen i’r cyhoedd ein helpu i ddarganfod mwy. A oes gwyfynod brith yn dal i fyw yn eich gardd? Os felly, a ydyn nhw’n frith ynteu’n ddu?

Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, mae’n ymddangos bod y teigr ôl-adain goch, sy’n hedfan yn ystod y dydd, yn ffynnu. Rydyn ni’n o’r farn ei fod yn ymledu o’i gadarnleoedd traddodiadol yn ne-orllewin Lloegr a de Cymru, o bosibl oherwydd newid hinsawdd. Ond dydyn ni ddim yn gwybod i ble mae’r rhywogaeth wedi cyrraedd. Ydych chi wedi ei weld yn eich gardd tybed?

Arolwg ar-lein cenedlaethol cyffrous yw Cyfrifiad Gwyfynod yr Ardd, a gall pawb gymryd rhan – yr hen a’r ifanc fel ei gilydd. Does dim angen ichi fod yn arbenigwr na bod ag offer arbennig. Yn ogystal â’r gwyfyn brith a’r teigr ôl-adain goch, mae yna ddeunaw o wyfynod eraill ichi chwilio amdanyn nhw – mae pob un yn hawdd eu hadnabod ac yn hedfan yn ystod y dydd. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal rhwng 20 a 28 Mehefin 2009 ar www.mothscount.org

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen