Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Trochyddion Mawr

Rhy oer i ymdrochi yn y môr? Nid i’r trochyddion yma!
Cyfle I Wylio Adar – gyda Rhys Jones, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd, Dydd Mawrth 16 Chwefror 2010 am 10.30am.

Great northern Diver

Pam na ddewch chi draw i weld golygfa brin? Yn ystod misoedd y gaeaf, mae modd gweld trochyddion mawr – sef adar dŵr mawr sydd â phlu du a gwyn a phig cryf – ym Mae Caernarfon oddi ar arfordir Gwynedd.

Yn ôl Rhys Jones, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cadw golwg ar niferoedd y trochyddion mawr, a phleser yw gweld mwy a mwy ohonyn nhw’n dychwelyd bob blwyddyn. Yn ddiweddar, cafodd hanner cant ohonyn nhw’u cyfrif. Mae’r cynefin ym Mae Caernarfon yn ddelfrydol, oherwydd maen nhw angen dŵr bas er mwyn gallu dal crancod a physgod bach.”

Yn ystod y gaeaf, mae trochyddion mawr yn teithio tua’r de, ar ôl treulio misoedd yr haf yn nythu ar lynnoedd gogledd Canada, Yr Ynys Las a Gwlad yr Iâ. Pam? Wel, er mwyn cael mwynhau gaeafau mwynach y Deyrnas Unedig. Er mai pur anaml y gwelwch chi nifer helaeth o drochyddion mawr y tu hwnt i ynysoedd Yr Alban ac arfordir gorllewin Yr Alban, mae modd gweld nifer cynyddol ohonyn nhw oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

Mae tîm bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd, trwy gyfrwng grant gan y Cyngor Cefn Gwlad, yn cadw golwg ar symudiadau a chynefinoedd y trochyddion mawr, ynghyd ag amrywiaeth o adar prin eraill a welir yn yr ardal.

Yn ôl Euros Jones, Swyddog Partneriaeth Rhanbarth y Gogledd o fewn y Cyngor Cefn Gwlad: “Mae amgylchedd naturiol amrywiol Gwynedd yn atyniad mawr i filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn – mae ’na resymau economaidd a rhesymau cadwraethol dros warchod y bywyd gwyllt lleol cyfoethog sydd gennym. Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Gwynedd yn rhoi fframwaith cadarn inni ar gyfer gwarchod treftadaeth naturiol yr ardal.”

DIWEDD

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:

Brân Devey, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Rhanbarthol y Cyngor Cefn Gwlad, 02920 77 2403 / 07747767443; neu Carwyn Meredydd, Swyddog Cyfathrebu Cyngor Gwynedd, 01286 679 503 neu CarwynMeredydd@gwynedd.gov.uk.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiad, cysylltwch yn uniongyrchol â Rhys Jones, RhysJones@gwynedd.gov.uk

Nodiadau ar gyfer golygyddion

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi enwi 2010 yn Flwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth, ac mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn gefnogol iawn i hyn. Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o fywyd ar y ddaear. Mae’n hanfodol ar gyfer cynnal systemau naturiol neu ecosystemau sy’n rhoi bwyd, tanwydd, iechyd, cyfoeth a gwasanaethau hanfodol eraill inni. I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.biodiversityislife.net

Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk  

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen