Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig Achub trysorau’r
twyni.
Gwaith arbrofol sydd â’r nod o achub blodyn
prin yn ei gynefin olaf yng Nghymru.

Mae tegeirianau’r fign galchog, sy’n dibynnu ar y broses barhaus
o greu twyni tywod, wedi diflannu o bob safle arfordirol yng
Nghymru bron iawn. A bellach, mae’r blodau gwyn bregus yma dan
fygythiad yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig ger Pen-y-bont
ar Ogwr – sef un o’u cadarnleoedd olaf drwy’r Deyrnas Unedig.
Felly, bydd peiriannau trwm, nad ydych chi’n tueddu i’w cysylltu
â lleoliad tawel a braf ger yr arfordir, yn dod i’r adwy. Ar 15
Chwefror, fe ddechreuwyd ar y gwaith o greu llaciau twyni newydd, a
bydd y gwaith pwysig yma’n para tan 26 Chwefror. Ymhen amser, bydd
y cynefin yma’n ddelfrydol i ddwy rywogaeth brin sy’n bwysig trwy
Ewrop. Yn ystod y pum mlynedd cyntaf, y gobaith yw y bydd llysiau’r
afu petalog prin (Petalophyllum ralfsii) yn ymddangos, ac o fewn
deng mlynedd efallai y bydd tegeirianau’r fign galchog i’w gweld
yno.
Yn ôl Clive Hurford, Arweinydd y Tîm Monitro Cadwraeth o fewn y
Cyngor Cefn Gwlad: “Ein bwriad yw dod i’r adwy i geisio rhoi help
llaw i natur. Mae nifer o bethau wedi tarfu ar y broses naturiol
sy’n arwain at greu twyni – er enghraifft, llai o stormydd yn yr
haf ar gyfer chwythu’r tywod sych ymhellach i’r tir – ac o’r
herwydd mae llai o dywod ar gael i greu twyni’n naturiol. Hefyd,
mae’r ffaith fod cwningod, defaid a gwartheg wedi pori llai ar y
safle wedi cyfrannu at wneud y twyni’n llai addas i degeirianau’r
fign galchog, sy’n dibynnu ar y llystyfiant byr ac agored a geir
mewn llaciau newydd.”
Bydd y Cyngor Cefn Gwlad yn cadw golwg ar y prosiect yma yng
Nghynffig ar y cyd â staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar
Ogwr.
Yn ôl David Carrington, Rheolwr Gwarchodfa Cyngor Pen-y-bont ar
Ogwr: “Byddwn yn cadw golwg fanwl ar sut mae’r bywyd gwyllt, yn
enwedig y planhigion hynod brin, yn cartrefu yma yn eu cynefin
newydd. Fe fydd hyn yn ein helpu i greu strategaeth hirdymor ar
gyfer y safle er mwyn diogelu dyfodol tegeirianau’r fign galchog,
sef un o drysorau naturiol prinnaf Cymru.”
Mae mwy na 13,000 o bobl yn ymweld â gwarchodfa Natur
Genedlaethol Cynffig bob blwyddyn i fwynhau bywyd gwyllt yr ardal
ac i ddefnyddio’r ganolfan ymwelwyr enwog.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gyfrifol am
reoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig o ddydd i ddydd.
Rhywfaint o hanes…
Ers talwm, roedd yna gastell a thref brysur ar y safle yma. Ond
rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a’r unfed ganrif ar bymtheg, fe
ledaenodd twyni Cynffig, ac yn y pen draw cafodd y dref a’r tir
amaeth cyfagos eu gorchuddio gan dywod yn ystod cyfres o stormydd
garw.
Yr unig olion sydd ar ôl bellach o’r fwrdeistref hynafol yw
gorthwr y castell sy’n esgyn o’r twyni yng ngogledd-ddwyrain y
warchodfa.
Ar wahân i’r llwybr pren sy’n arwain at y cuddfannau gwylio
adar, llwybrau tywodlyd naturiol sydd i’w cael o amgylch y twyni,
ac maen nhw’n feddal a thonnog.
Sut i gyrraedd y safle:
Gallwch gyrraedd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig oddi ar
Gyffordd 37 yr M4, a cheir arwyddion yng Ngogledd Corneli, Y Pîl a
Phorthcawl. Parcio am ddim.
Cludiant Cyhoeddus:
Mae bysys lleol yn stopio y tu allan i’r warchodfa. I gael mwy o
wybodaeth, ffoniwch Traveline Cymru, 0871 2002233.
Cyfleusterau:
Ceir canolfan ymwelwyr a chanddi arddangosfa, yn ogystal â siop
sy’n gwerthu taflenni a llyfrynnau’n sôn am y warchodfa a bywyd
gwyllt Cymru. O’r ganolfan ymwelwyr, ceir llwybr pren sy’n eich
tywys at guddfannau gwylio Pwll Cynffig.
DIWEDD
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Brân Devey, Swyddog y Wasg,
02920 772 403 neu 07747767443.
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cefnogi Blwyddyn Ryngwladol
Bioamrywiaeth 2010 a bennwyd gan y Cenhedloedd Unedig.
Bioamrywiaeth yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae’n hanfodol ar
gyfer cynnal y systemau naturiol neu’r ecosystemau sy’n rhoi bwyd,
tanwydd, iechyd, cyfoeth a gwasanaethau hollbwysig eraill inni. I
gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.biodiversityislife.net.
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor Cefn
Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori
ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o
wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk.