Estroniaid yn ein moroedd!
Mae dyfroedd Aberdaugleddau, sydd yn rhan o
Ardal Gadwraeth Arbennig Morol Sir Benfro, yn gynefin erbyn hyn i
doreth o anifeiliaid a phlanhigion estron. Ydych chi’n gallu eu
hadnabod nhw? Ydyn nhw’n fygythiad? Mae rhai wedi bod yma ers
blynyddoedd, eraill yn newydd-ddyfodiaid.

Mae Anne Bunker, Uwch-swyddog Cadwraeth Morol Cyngor Cefn Gwlad
Cymru, yn rhoi cyflwyniad byr fel rhan o Fforwm Arfordirol Sir
Benfro, ‘Dyddiadur Cudd Macrell’, yn Theatr Myrddin Ddydd Sadwrn 4
Gorffennaf, 10.00 a.m.
Yno cewch glywed am rywogaethau fel cregyn llong Awstralaidd,
chwistrellau môr Asiaidd, wystrys Portiwgeaidd a gwymon
Coreaidd.
Mae’r digwyddiad yma, sydd am ddim, yn rhan o Wythnos Bysgod Sir
Benfro. Argymhellir cadw lle ymlaen llaw:01646 696171.
DIWEDD
- I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad yma mae croeso i chi
gysylltu ag Anne Bunker ar 01646 62 4011.
- Corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor Cefn
Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well ble mae pawb yn trysori
ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o
wybodaeth am ein gwaith ar www.ccw.gov.uk