Gwyddonwyr yn gofyn am gymorth wrth i wyfynod newid a symud
ymlaen
Mae gwyddonwyr yn gofyn am gymorth y cyhoedd
wrth iddynt geisio deall sut mae dylanwad dyn yn effeithio ar ddau
wyfyn pwysig.
Mae’r gwyfyn hardd hwn, sy’n hedfan
yn ystod y dydd, yn ymledu i rannau
newydd o Gymru mewn ymateb i’r
newid yn yr hinsawdd
(gan Chris Manley)
Un o’r gwyfynod hyn yw’r Teigr Ôl-adain Goch, gwyfyn hardd sy’n
hedfan yn ystod y dydd, ac a oedd yn anghyffredin iawn y tu allan i
Dde-orllewin Cymru tan yn ddiweddar. Erbyn hyn mae i’w weld mewn
mwy a mwy o leoedd, ac rydym bron yn sicr mai’r newid yn yr
hinsawdd sy’n gyfrifol am hynny. Mae gwyddonwyr yn awyddus i wybod
pa mor bell y mae wedi ymledu er mwyn asesu effaith y newid yn yr
hinsawdd ar ein bywyd gwyllt.
Y Gwyfyn Brith arferol a’i ffurf
felanig (du) yw un o’r enghreifftiau
mwyaf adnabyddus o ddethol
naturiol. Gwelwyd gostyngiad o
61% yn nifer y gwyfynod ym
Mhrydain ers diwedd y 1960au ond
ni wyddom yn iawn beth sydd wedi
achosi’r gostyngiad.
(gan Chris Manley)
Y llall yw’r Gwyfyn Brith, a esblygodd mewn ardaloedd lle roedd
llawer o lygredd diwydiannol o fod yn wyn â brychni duon bychain i
fod bron yn ddu. Roedd y newid yn ei wneud yn llai amlwg i
ysglyfaethwyr ar gefndir o barddu a huddygl. Mae’r gwyfyn yn cael
ei ystyried yn enghraifft glasurol o ddethol naturiol ac, oherwydd
hynny, cyfeirir ato’n aml fel "gwyfyn Darwin". Bellach, ym Mhrydain
ôl-ddiwydiannol, 200 mlynedd ar ôl geni Darwin, mae’n ymddangos bod
y Gwyfyn Brith yn dychwelyd i’w ffurf wreiddiol, ond i ba raddau y
mae’r newid hwn wedi digwydd?
Mae gwyddonwyr yn gofyn i bobl edrych yn eu gerddi a’u parciau
lleol am y Teigr Ôl-adain Goch a’r ddau wahanol fath o Wyfyn Brith
yn ystod y naw diwrnod nesaf (20-28 Mehefin) a chofnodi’r hyn maent
yn ei weld fel rhan o Gyfrifiad Gwyfynod yr Ardd 2009.
Cyfrifiad Gwyfynod yr Ardd yw’r digwyddiad blynyddol sy’n
cynyddu diddordeb yn y gwyfynod a welir mewn gerddi yn y DU. Mae’n
rhan o’r prosiect Cyfrifiad Gwyfynod cenedlaethol, a sefydlwyd ar
ôl i waith ymchwil ddangos gostyngiad aruthrol yn nifer y gwyfynod,
yn enwedig yn hanner deheuol Prydain. Mae nifer y Gwyfynod Brith
wedi gostwng bron i ddwy ran o dair mewn 40 mlynedd.
Mae rhai pobl yn troi eu trwynau ar wyfynod oherwydd y gred eu
bod yn bwyta dillad. Mewn gwirionedd, dim ond hanner dwsin o’r
2,500 o rywogaethau o wyfynod sydd ym Mhrydain sy’n gwneud hynny –
ac mae’n well ganddynt eitemau budr wedi’u cuddio, mewn mannau
tywyll lle nad oes neb yn tarfu arnynt. Yn y cyfamser, mae
gwyfynod yn rhan hanfodol o gadwyn fwyd natur. Mae cywion y Titw
Tomos Las, er enghraifft, yn bwyta tua 100 o lindys yr un bob
diwrnod.
Yn ôl rheolwr y prosiect Cyfrifiad Gwyfynod, Richard Fox: "Mae
gwyfynod yn ddangosyddion pwysig a gallwn ddysgu llawer drwy eu
gwylio. Maent yn ffynhonnell fwyd hanfodol i lawer o adar ac maent
yn bwysig gan eu bod yn trosglwyddo paill yn yr ardd. Mae rhai’n
hardd iawn ac, er gwaetha’r gostyngiad yn eu niferoedd yn
ddiweddar, mae gwyfynod lliwgar iawn i’w gweld o hyd ym mhob un o’n
gerddi".
Gellir cofnodi gwyfynod sy’n cael eu gweld yn ystod y dydd neu’r
nos ar wefan Cyfrifiad Gwyfynod yr Ardd - www.mothscount.org. Mae’r
wefan hefyd yn egluro ffyrdd syml a hwyliog o ddenu gwyfynod, er
enghraifft drwy ddefnyddio tortsh neu ddiod fyrlymog. Yn ychwanegol
at hyn, mae’r wefan yn cynnwys manylion a lluniau o wyfynod i
chwilio amdanynt, ynghyd â gwybodaeth ynglŷn â pha bryd rydych yn
debygol o’u gweld.
Pobl i Gysylltu â Hwy
Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth, Gwarchod Glöynnod Byw
Cymru
Ffôn 01792 642 972 Ffôn Symudol 07736 229 593
Ebost rfox@butterfly-conservation.org
Neil Jones, , Gwarchod Glöynnod Byw Cymru (siaradwr
Cymraeg)
Ffôn 01792 813600
Louise Keeling, Uwch Swyddog Cyhoeddusrwydd, Butterfly
Conservation
Ffôn 01929 406 005 Ffôn Symudol 07918 073 650
Ebost lkeeling@butterfly-conservation.org
Nodiadau i Olygyddion
Arolwg ar-lein cenedlaethol cyffrous yw Cyfrifiad Gwyfynod yr
Ardd, a gall pawb gymryd rhan – yr hen a’r ifanc fel ei gilydd.
Does dim angen ichi fod yn arbenigwr na bod ag offer arbennig. Yn
ogystal â’r Gwyfyn Brith a’r Teigr Ôl-adain Goch, mae yna ddeunaw o
wyfynod eraill ichi chwilio amdanyn nhw mewn gerddi – mae pob un yn
hawdd eu hadnabod a gallwch weld rhai ohonyn nhw yn ystod y dydd.
Bydd y Cyfrifiad yn cael ei gynnal rhwng 20 a 28 Mehefin 2009 ar
www.mothscount.org. Mae Cyfrifiad
Gwyfynod yr Ardd yn rhan o’r prosiect Cyfrifiad Gwyfynod a lansiwyd
gan Syr David Attenborough yn 2007. Mae’n cael ei oruchwylio gan
elusen Butterfly Conservation ac mae wedi cael ei ddatblygu mewn
ymgynghoriad â chofnodwyr gwyfynod, grwpiau lleol a sefydliadau
cadwraeth, â chymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Butterfly Conservation yw’r elusen gwarchod pryfed fwyaf yn
Ewrop ac mae ganddi bron i 14,000 o aelodau yn y DU. Ei nod yw
gwarchod glöynnod byw, gwyfynod a’u cynefinoedd. Mae’n trefnu
rhaglenni cadwraeth ar gyfer dros 60 o rywogaethau o löynnod a
gwyfynod sydd dan fygythiad ac yn rheoli dros 30 o warchodfeydd
natur. Ceir mwy o fanylion yn www.butterfly-conservation.org
Butterfly Conservation.
Cwmni cyfyngedig drwy warant, wedi’i gofrestru yn Lloegr
(2206468).
Swyddfa Gofrestredig: Manor Yard, East Lulworth, Wareham,
Dorset, BH20 5QP.
Elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (254937) ac yn yr
Alban (SCO39268)