Cytundeb Newydd Rhwng Sefydliadau Amgylcheddol
Heddiw, 22 Chwefror, fe fydd Ymddiriedolaethau
Natur Cymru a’r Cyngor Cefn Gwlad yn gosod seiliau i weithio gyda’i
gilydd i greu amgylchedd sy’n doreithiog o fywyd gwyllt i Gymru a’i
thrigolion, drwy arwyddo cytundeb partneriaeth arloesol –
Concordat.

Bydd Derek Thomas, Cadeirydd Ymddiriedolaethau Natur Cymru –
corff mantell ar gyfer y chwe Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru – a
John Lloyd Jones, Cadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad fydd yn mynd ati
i’w arwyddo. Mae’n nodi sut y gall y naill sefydliad a’r llall elwa
drwy weithio gyda’i gilydd. Bydd cytundeb grant am dair blynedd yn
sylfaen i’r Concordat hwn.
Dyma rai enghreifftiau o’r math o waith lle gall y ddau bartner
gydweithio:
- Gweithio gyda’i gilydd er mwyn creu ystod o brosiectau addysgol
a chymunedol, cyfleoedd i wirfoddoli a lleoliadau i fyfyrwyr, fel y
gellir helpu pobl i ddeall yr amgylchedd naturiol, ei warchod a’i
drysori.
- Cyd reoli ambell Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gyda’r
nod o roi stop ar golli bioamrywiaeth.
- Ceisio galluogi’r Ymddiriedolaethau Natur i ymateb i geisiadau
cynllunio sy’n gysylltiedig â safleoedd bywyd gwyllt lleol.
- Rhannu adnoddau a gwybodaeth pan fo modd, gan weithio gyda’i
gilydd i greu incwm ar gyfer y sector amgylcheddol.
Yn ôl Derek Thomas, Cadeirydd Ymddiriedolaethau Natur Cymru:
“Ers amser maith, mae’r Ymddiriedolaethau Natur a’r Cyngor Cefn
Gwlad wedi rhannu’n un amcanion o gael amgylchedd iach ac amrywiol.
Ar ôl troedio llwybr maith, o’r diwedd rydyn ni wedi esgor ar y
Concordat, fydd yn ddechreuad i daith newydd. Mae’n dod â’r chwe
Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru, yn ogystal â’r Cyngor Cefn
Gwlad, at ei gilydd. Bydd yn cynnig perthynas sy’n fwy addas ar
gyfer y dyfodol. Drwy rhoi bobl yn rhan o’u hamgylchedd rydym yn
sicr y gall y Concordat yma helpu i wella ansawdd bywyd pobl
Cymru.
“Addas iawn yw ein bod ni’n arwyddo’r cytundeb yma yn ystod
2010, sef Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth.”
Meddai John Lloyd Jones, Cadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad sydd ar
fin ymddeol o’i swydd:
“Yn ystod y blynyddoedd nesaf, fe fydd sialensiau amgylcheddol
ac economaidd enfawr yn ein hwynebu. O’r herwydd, mae’r ffaith y
gall ein sefydliadau weithio gyda’i gilydd, rhannu costau ac
arloesi yn bwysicach nag erioed o’r blaen. Ymhellach, mae’r
bartneriaeth yn ategu uchelgais Llywodraeth y Cynulliad o gael
gwell cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
“Wrth i ’nghyfnod fel Cadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad ddod i ben,
rydw i wrth fy modd mai un o ’nhasgau olaf fydd arwyddo cytundeb
partneriaeth hollbwysig gyda’r trydydd sector. Dyma’r Concordat
cyntaf yn hanes y Cyngor Cefn Gwlad a’r Ymddiriedolaethau Natur
drwy Gymru a Lloegr, felly rydw i’n gwybod o’r gorau y bydd cryn
graffu ar y dull arloesol sydd wedi’i roi ar waith. Yn wir, fe
allai fod yn batrwm yn y dyfodol ar gyfer cyrff cyhoeddus a chyrff
gwirfoddol y sector amgylcheddol.”
DIWEDD
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
- Meinir Wigley, Cyngor Cefn Gwlad ar 07720
428644.
- Liz Shankland, Rheolwr y Wasg a Cysylltiadau Cyhoeddus,
Ymddiriedolaeth Natur Cymru ar 07970 780558.
Gwahoddiad i ffotograffwyr:
- Mae croeso i ffotograffwyr fod yn bresennol ar gyfer
arwyddo’r Conordat. Bydd Derek Thomas a John Lloyd Jones yn ei
arwyddo yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd am 3pm, 22 Chwefror
2010.
Nodiadau ar gyfer golygyddion:
- Corff mantell yw Ymddiriedolaethau Natur Cymru sy’n
cynnwys chwech o fudiadau a chanddynt 22,000 o aelodau ar hyd a
lled Cymru. Gyda’i gilydd, maen nhw’n rheoli mwy na 200 o
warchodfeydd natur ym mhob cwr o’r wlad.
- Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor
Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn
trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy
o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk