Y cynllun cadwraeth newydd ar gyfer gwiwerod coch
Gwynebu'r her o gadw'r goch yn saff yng
Nghymru
©Steward Ellett, highly
commended award winner,
2009 British Wildlife
Photography Awards. More on
www.bwpawards.org
Heddiw cyd-gymeradwyodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr
Amgylchedd, ac Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig,
gynllun cadwraeth newydd ar gyfer gwiwerod coch yng Nghymru.
Fel rhywogaeth eiconig, mae angen gweithredu ar y cyd i ofalu
nad ydym yn colli'r wiwer goch. Mae'r cynllun cadwraeth newydd yn
rhoi sail gryfach i'r gwaith hwn, gan roi gobaith i genedlaethau'r
dyfodol barhau i gael gweld y mamal hoffus hwn.
Meddai Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig: "Mae
gwiwerod coch yn byw ac yn bridio mewn coed. Dyna ble maen nhw'n
gwneud eu nythod ac maen nhw'n bwyta hadau'r coed. Yn y gorffennol,
roedd gwiwerod coch i'w gweld mewn coedlannau a choedwigoedd ledled
Cymru ac efallai bod llawer o bobl yn cofio gweld gwiwerod coch yn
eu coedlannau lleol pan oeddent yn blant.
"Dim ond mewn ychydig fannau yng Nghymru y cewch weld gwiwerod
coch bellach. Mae'r boblogaeth fwyaf ohonynt yn Ynys Môn, yng
Nghoed Clocaenog ac yng nghoedwigoedd eang y Canolbarth a Dyffryn
Tywi. Mae astudiaethau geneteg wedi dangos bod DNA pob un o'r
poblogaethau gwiwerod hyn yn unigryw i Gymru."
Meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd: "I
gydnabod pwysigrwydd y tair poblogaeth hon, rydym wedi cytuno y
dylai'r safleoedd yn Ynys Môn, Clocaenog a'r Canolbarth gael eu
trin fel Prif Safleoedd i wiwerod coch a bod angen cymryd camau
strategol ar unwaith yn yr ardaloedd hyn.
"Allwn ni ddim cymryd gwiwerod yn ganiataol bellach. Fel aelodau
eraill ein ffawna a'n fflora, maen nhw wedi dioddef wrth i
rywogaeth anfrodorol, hynny yw gwiwerod llwyd, gynyddu. Mae
dyletswydd arnon ni yng Nghymru i ddiogelu gwiwerod coch a sicrhau
y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn cael cyfle i'w gweld yn eu
cynefin."
Mae nifer y gwiwerod coch wedi gostwng am nifer o resymau -
cystadleuaeth gan wiwerod llwyd, lledaeniad clefydau, ac i raddau
llai, colli cynefinoedd. Mae diogelu gwiwerod coch yn ddibynnol ar
sicrhau nad oes gwiwerod llwyd yn rhannu'u safleoedd a bod
cynefinoedd yn addas i wiwerod coch.
Ymhlith prif gamau'r cynllun, mae:
- Darganfod a monitro poblogaethau o wiwerod coch, gan gynnwys
edrych ar yr holl safleoedd lle mae gwiwerod coch wedi'u gweld dros
y deng mlynedd diwethaf, a monitro'r Prif Safleoedd;
- Paratoi a rhoi cynllun rheoli ar waith ar gyfer gwiwerod coch
ar y Prif Safleoedd;
- Sefydlu grwpiau cymunedol i gefnogi a chynnal gwaith
cadwraeth;
- Sefydlu a chynnal cronfa ddata ar wiwerod coch;
- Adolygu'r angen am ymchwil - asesu er enghraifft, effaith
bosibl y newid yn yr hinsawdd ar ddiogelu gwiwerod coch.
Mae'r gwaith ar y Cynllun Cadwraeth yn cael ei arwain gan Fforwm
Gwiwerod Cymru - grŵp sy'n cael ei gadeirio gan Gyngor Cefn Gwlad
Cymru. Mae'r aelodau yn cynnwys: Prosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn;
Prosiect Gwiwerod Coch Clocaenog; Cydffederasiwn y Diwydiannau
Coedwigaeth; Menter Gwiwerod Ewrop; Comisiwn Coedwigaeth Cymru;
Ymchwil i Goedwigoedd; Cynrychiolydd o'r Cynllun Gweithredu
Bioamrywiaeth Lleol; Prosiect Gwiwerod Coch y Canolbarth;
Ymddiriedolaeth Natur Cymru; Llywodraeth Cynulliad Cymru
Meddai Liz Haliwell, Ecolegydd Mamaliaid Cyngor Cefn Gwlad
Cymru: "Mae llawer o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i
helpu'r gwiwerod coch. Drwy gydweithio ar sail y Cynllun hwn, a
chyda'r cymorth ardderchog yr ydym yn ei gael gan aelodau'r Fforwm,
rydym yn obeithiol iawn y gall yr ymgais cadwraeth hwn lwyddo."
Rhagor o ffeithiau am wiwerod coch:
- Dyma'r unig wiwerod sy'n frodorol i Gymru.
- Yn y drydedd ganrif ar ddeg, yn llyfr Cyfraith Hywel Dda oedd y
cyfeiriad cyntaf at y wiwer goch yng Nghymru.
- Ers i wiwerod llwyd gael eu cyflwyno i'r DU, mae nifer y
gwiwerod coch wedi gostwng yn raddol.
- Mae feirws pocs y gwiwerod yn glefyd heintus sy'n lladd
gwiwerod coch.