Rheolau Newydd Ar Lusg-Rwydo Am Gregyn Bylchog
Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion
Gwledig, wedi cyhoeddi rheoliadau newydd i lywodraethu pysgota am
gregyn bylchog ar hyd arfordir Cymru o 1 Mawrth 2010 ymlaen.
Nod y rheoliadau newydd yw sicrhau bod llai o bysgota am gregyn
bylchog yn nyfroedd Cymru. Byddant hefyd yn gwahardd treillio am
gregyn bylchog mewn sawl ardal benodol o amgylch arfordir Cymru gan
eu bod wedi'u dynodi fel ardaloedd sy'n bwysig i rywogaethau a
chynefinoedd morol sy'n agored i niwed. Bydd hyn yn helpu i gynnal
diwydiant cregyn bylchog hyfyw a chynaliadwy i bysgotwyr sy'n
pysgota yn nyfroedd Cymru.
Meddai Elin Jones: "Penderfynais gyflwyno'r rheoliadau hyn gan
fod mwy a mwy o dreillio am gregyn bylchog wedi bod yn digwydd ym
Mae Ceredigion dros y blynyddoedd diwethaf.
“Bydd y rheoliadau newydd yn helpu i amddiffyn stociau cregyn
bylchog a diogelu rhywogaethau a chynefinoedd pwysig y môr drwy
amrywiaeth o gyfyngiadau technegol a gofodol.
"Bydd y mesurau technegol yn gwella'r ffordd o reoli pysgodfeydd
cregyn bylchog yn nyfroedd Cymru, tra bydd y cyfyngiadau gofodol yn
rheoli gweithgareddau yn yr ardaloedd sydd wedi'u dynodi fel rhai
sy'n bwysig i rywogaethau a chynefinoedd morol sy'n agored i niwed.
Ac eithrio rhan o'r Ardal Cadwraeth Arbennig ym Mae Ceredigion,
fydd dim treillio am gregyn bylchog mewn unrhyw Ardal Cadwraeth
Arbennig arall yn nyfroedd Cymru.
"Yn dilyn ymgynghoriad 10 wythnos, yn ogystal ag arolwg sydd
newydd ei gynnal ym Mae Ceredigion gan Brifysgol Bangor a chyngor
sydd wedi'i roi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, dw i wedi penderfynu
caniatáu treillio am gregyn bylchog mewn un rhan o Ardal Cadwraeth
Arbennig Bae Ceredigion.
"Byddwn yn ystyried gwneud asesiad tebyg i'r un a wnaed yn
ddiweddar mewn un rhan o Fae Ceredigion, a allai arwain at
ailystyried y sefyllfa mewn ardaloedd lle mae treillio wedi'i
wahardd ar hyn o bryd."
Mae'r rheoliadau newydd yn cynnwys:
- O 2011 ymlaen, byrhau hyd y tymor treillio o un mis (h.y. fydd
dim hawl i bysgota am gregyn bylchog rhwng 1 Mai a 31 Hydref bob
blwyddyn)
- Gwahardd treillio am gregyn bylchog o fewn yr ardal 0 - 1
filltir forol o gwmpas arfordir Cymru
- Gwahardd treillio am gregyn bylchog mewn ardaloedd penodol sydd
wedi'u dynodi fel rhai sy'n bwysig i rywogaethau a chynefinoedd
morol sy'n agored i niwed.
- Cyfyngu ar nifer y cychod treillio a ganiateir yn nyfroedd
Cymru
- Cyfyngu ar uchafswm pŵer injans cychod
Meddai Keith Davies, Pennaeth Polisi Amgylcheddol Cyngor Cefn
Gwlad Cymru: "Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru'n croesawu penderfyniad y
Gweinidog, sy'n rhoi sail am y tro cyntaf i fframwaith strategol
yng Nghymru, ac yn diogelu rhywogaethau a chynefinoedd morol pwysig
ar yr un pryd.
"Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn
parhau i weithio mewn partneriaeth i wneud pob ymdrech i wella
iechyd ein moroedd er budd ein bywyd gwyllt a'r rheini y mae'u
bywoliaeth yn ddibynnol arno."
Nodiadau
Gweler Hefyd...
Cyngor y CCG i Lywodraeth y Cynulliad ar lusgrwydo am gregryn
bylchog. (Maer dogfenau isod mewn saesneg yn unig)
Llythyr
Maps