Gwlyptiroedd Casnewydd Yn dod yn Warchodfa Natur
Genedlaethol
Mae wedi cymryd deng mlynedd. A phrin fod
aderyn i’w weld. Ond heddiw (Dydd Mercher 16 Ebrill 2008) mae
Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd yn cael ei gydnabod fel hafan o
bwysigrwydd cenedlaethol i fywyd gwyllt.
.jpg)
Cafodd ei greu fel rhan o becyn iawndal am y cynefinoedd bywyd
gwyllt a gollwyd pan godwyd morglawdd Bae Caerdydd; mae ei datgan
yn Warchodfa Natur Genedlaethol heddiw yn garreg filltir
gadwriaethol bwysig.
Meddai Mr John Lloyd Jones, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru:
“Mae’r trawsnewidiad yn yr ardal yn rhyfeddol. Erbyn hyn, nid yn
unig mae’r gwlyptiroedd yn gallu ymfalchïo mewn rhai o’r
enghreifftiau gorau o fywyd gwyllt yng Nghymru ond mae yno hefyd
adnoddau ardderchog ar gyfer grwpiau ysgol, pobl leol ac ymwelwyr o
ymhellach i ffwrdd”.
Bydd y gwahoddedigion yn y digwyddiad datgan y warchodfa, sy’n
cael ei noddi gan y Cyngor Cefn Gwlad, yn cynnwys Allan Morris,
Maer Casnewydd a Dr Sanjida O'Connell, cyflwynydd ‘Nature’s
Calendar’ y BBC. Byddant yn ymuno â disgyblion ysgol iau yr Eglwys
yng Nghymru, Malpas wrth iddyn nhw gael blas ar weithgareddau
addysg amgylcheddol y warchodfa.
Byddan nhw hefyd yn gwneud ychydig o wylio adar. Mae’n debyg y
byddan nhw’n gweld y rhai sydd newydd gyrraedd yn y gwanwyn - y
wennol, gwennol y glennydd, telor penddu, siff saff, telor yr helyg
a thinwen y garn.
Mae’r Warchodfa wedi datblygu ac aeddfedu yn ystod ei oes fer.
Cafodd dros 65 acer o gorsle ei blannu ar lle y byddai lludw’r
orsaf drydan gyfagos yn cael ei waredu. Erbyn hyn mae’r gorsle’n
denu nifer sy’n genedlaethol bwysig o regen y dŵr a thelor ceti i
fridio a dyma’r unig fan yng Nghymru, hyd y gwyddir, lle mae’r titw
barfog yn bridio. Ym mhen arall y warchodfa, gellir gweld y lagwnau
heli enwog, sydd wedi dod yn gartref i bâr cyntaf Cymru o’r cambig
sy’n bridio.
Rhwng y ddau gynefin fe welwch laswelltir gwlyb Lefelau Gwent
lle mae’r system gaeau grwn a rhych wedi dod yn nodwedd bwysig o’r
Warchodfa. Yma, cafodd nifer o rychoedd newydd eu cloddio i helpu i
reoli lefel y dŵr yn y Warchodfa er mwyn y cornchwiglod sy’n
bridio.
Mae’r warchodfa hefyd yn gartref i ddyfrgwn, llŷg y dŵr,
ysgyfarnogod brown a ffwlbart yn ogystal ag i amrywiaeth eang o
bryfed a phlanhigion.
Meddai Maer Casnewydd, y Cyng Allan Morris: “Mae gweld
Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd yn cael ei datgan yn Warchodfa
Natur Genedlaethol yn achos balchder mawr, i mi’n bersonol ac i’n
Dinas. Mae meddwl fod rhan o’r warchodfa ar un adeg yn dir diffaith
diwydiannol yn rhoi gobaith i ni y gellir gwrthwneud y difrod
amgylcheddol mae dynol ryw yn ei achosi i’n planed os yw’r ewyllys
gennym ni i wneud hynny.
“Bydd y dynodiad yn lledaenu’r newydd am y perl ffantastig yng
nghoron Casnewydd ymhell ac agos ac yn denu ymwelwyr o hyd yn oed
ymhellach. Mae’r cyfleon addysgol y gall ymwelwyr eu cael yn y
warchodfa yn ddiddiwedd. Mae hyn yn newyddion gwych i
genedlaethau’r dyfodol yng Nghasnewydd ac i fywyd gwyllt.”
Bu Dr Sue Howard, Arweinydd Tîm Caerdydd a Chasnewydd y Cyngor
Cefn Gwlad â rhan yn y prosiect o’r cychwyn. Meddai: “Mae’n braf
iawn gweld cydnabyddiaeth ffurfiol i flynyddoedd o waith caled
staff y Cyngor Cefn Gwlad, wardeiniaid gwirfoddol a phartneriaid yn
yr RSPB a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae’n ddiwrnod lle mae pawb sydd
wedi bod â rhan yn falch ohono.”
DIWEDD
Am fwy o luniau neu i drefnu cyfweliadau ar y diwrnod,
neu ymlaen llaw, cysylltwch gyda Delyth Willis, Swyddog
Cyhoeddusrwydd Rhanbarthol y Cyngor Cefn Gwlad ar 029 2077 2455 neu
d.willis@ccw.gov.uk
.
Y Rhaglen ar gyfer digwyddiad datgan Gwarchodfa Natur
Genedlaethol
10.30 - 11.00am - Croeso a the a choffi
11.15 - Taith dywys fer o ran o’r warchodfa, yn aros i weld rhai o
weithgareddau addysg amgylcheddol newydd y warchodfa
12.00 - Datganiad fod y warchodfa’n Warchodfa Natur Genedlaethol
gan gadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru Mr John Lloyd Jones
12.15 - Cinio Bwffe
13.15 - Taith dywys ddewisol o ragor o’r
warchodfa
- CYFARWYDDIADAU – Mae Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd
ar ymylon dwyreiniol Dinas Casnewydd ar lan ogleddol Aber Afon
Hafren. Mae ddwy filltir o bellter o Barc Mân-werthu Casnewydd a
gellir mynd ati drwy ddilyn yr arwydd hwyaden frown o fynedfa
orllewinol Gwaith Dur Llanwern.
- Diffinnir gwarchodfa natur fel – tir yn cael ei reoli
ar gyfer cadwraeth neu ar gyfer cadwraeth a hamdden, cyn belled nad
yw’r defnydd hamdden yn effeithio ar reoli cadwraethol. Mae
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn warchodfeydd natur o
bwysigrwydd cenedlaethol. Mae Gwlyptiroedd Casnewydd o bwysigrwydd
cenedlaethol oherwydd nifer yr adar sydd yno.
- Talodd Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd am brynu a
datblygu’r warchodfa, rhan o fesurau iawndal am golli Safle o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Aberoedd Taf ac Elai ar ôl adeiladu
Morglawdd Bae Caerdydd. Trosglwyddwyd Gwlyptiroedd Casnewydd i’r
Cyngor Cefn Gwlad fis Mawrth 2000.
- Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn rheoli’r warchodfa ac yn
gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd a’r RSPB er
mwyn datblygu i’r eithaf ddehongli i ymwelwyr ac addysgu ar y
safle.
- Talodd grant Ewropeaidd Amcan 2, yn cael ei gefnogi gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru, am y ganolfan addysg amgylcheddol ac
ymwelwyr newydd ar y warchodfa. Cafwyd cyllid hefyd oddi wrth
Bartneriaeth Ewropeaidd Casnewydd, dyraniad Cyngor Dinas Casnewydd
o Gronfa Adfywio Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynllun Credyd
Treth Tirlenwi Cyngor Dinas Casnewydd a Chroeso Cymru. Y
weledigaeth gyffredinol yw creu gwlypdir sy’n ffynnu ar gyfer pobl
a bywyd gwyllt.
- Agorodd Canolfan Ymwelwyr ac Addysg Amgylcheddol yr
RSPB yn Ngwlyptiroedd Casnewydd fis Mawrth ac mae’n cynnwys lle ar
gyfer gweithgareddau grwpiau a theuluoedd, cyfleusterau cynadledda,
man mân-werthu a siop goffi. I ganfod rhagor ynghylch ymweld,
ffoniwch y ganolfan ar (01633) 636363 neu ymweld â
www.rspb.org.uk/reserves
- Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n Gorff a Noddir gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn gweithio dros Gymru well lle mae
pawb yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ein hamgylchedd naturiol.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch ein gwaith ar
www.ccw.gov.uk