Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Amdanom Ni

Y Cyngor yn dathlu Gwyl Dewi gyda Chynllun Iaith diwygiedig

Wrth edrych ymlaen at Ddydd Gwyl Dewi, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi adnewyddu ei addewid i hybu’r iaith Gymraeg drwy gyfrwng ei holl weithgareddau.

Mae’r Cyngor wedi diweddaru a chryfhau ei Gynllun Iaith Gymraeg. Mae’n rhoi mwy o bwyslais ar hybu’r defnydd o’r iaith yn fewnol rhwng staff, yn ogystal ag yn allanol, yn ei holl ymwneud â’r cyhoedd. Mae’r cam pwysig yma wedi’i groesawu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Gwelliant arall i’r Cynllun Iaith yw fod trefniadau recriwtio staff newydd yn adlewyrchu ymroddiad y Cyngor tuag at hybu’r iaith. Bellach mae disgwyl i bawb a gyflogir gan y Cyngor allu, o leiaf, ddefnyddio ymadroddion sylfaenol ac ynganu enwau lleoedd yn iawn. Mae CD ar gael i bob ymgeisydd am swydd, yn rhoi gwybodaeth elfennol am yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac mae hwn yn cael ei brofi mewn cyfweliad.

Mae rhai swyddi yn gofyn i’r sawl a benodir i ddysgu Cymraeg o fewn amser penodol; mae swyddi eraill yn gofyn am siaradwyr Cymaeg o’r dechrau. Mae’r Cyngor yn parhau i roi cefnogaeth lwyr i staff sy’n awyddus i ddysgu’r iaith neu sydd angen dysgu Cymraeg i gyflawni gofynion eu swyddi.

Mae 35 y cant o staff y Cyngor yn siarad Cymraeg; mae 30 y cant arall yn ddysgwyr.

Meddai Roger Thomas, Prif Weithredwr y Cyngor Cefn Gwlad: “Rydym am sicrhau for y Cyngor yn ymateb i ysbryd y Ddeddf Iaith yn ogystal â chwrdd â’i gofynion statudol. Yn ogystal â chael rhaglen waith yn ei lle, mae nifer o weithgareddau anffurfiol ond cwbwl allweddol yn cael eu trefnu er mwyn i ddysgwyr ymarfer yr iaith. Mae hyn yn eu helpu i wneud y naid i ddod yn siaradwyr rhugl a gweld yr iaith fel rhan naturiol, perthnasol a phleserus o’u gwaith.”

Ein cynllun iaith

Diwedd

Mwy o wybodaeth: Helen Evans, swyddog y wasg, ar 01248 387377 neu 07717225589.

Corff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori ein hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk.

Ein safleoedd eraill
Help
Calendr Digwyddiadau
Blaenorol|Mis Medi 2010| Nesaf
LMMIGSS
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim swyddfa CCGC (Ystafell Newyddion)
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen