Gwahoddir cerddwyr i grwydro ar hyd llwybr troed newydd a
swyddogol y gwanwyn hwn
Mae darn o Arfordir Treftadaeth godidog
Morgannwg wedi’i gydnabod yn ffurfiol fel llwybr troed mewn pryd i
gerddwyr fanteisio i’r eithaf ar olau dydd y gwanwyn.
o'r chwith:
Paul Lock, Ceidwad;
Belinda Ashong, Ceidwad;
Julian Golunski, Ymddiriedolwr Stad Dunraven;
Trica Cottnam, Swyddog Mynediad Arfordirol,
Gwyn Teggue, Swyddog Hawliau Tramwy and
Paul Dunn, Prif Ceidwad.
o'r chwith:
Anthony Ernest, Cynghorydd;
Belinda Ashong, Ceidwad;
Julian Golunski, Ymddiriedolwr Stad Dunraven;
Trica Cottnam, Swyddog Mynediad Arfordirol,
Gwyn Teggue, Swyddog Hawliau Tramwy and
Paul Dunn, Prif Ceidwad.
o'r chwith:
Frank Colman, Cadeirydd Fforymau Mynediad Lleol;
Sue Rice, Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
Julian Golunski, Ymddiriedolwr Stad Dunraven;
Trica Cottnam, Swyddog Mynediad Arfordirol,
Gwyn Teggue, Swyddog Hawliau Tramwy and
Brian Acott, Cadeirydd y Grŵp Ffrindiau yr Arfordir Treftadaeth
Bydd y darn hwn o’r llwybr, o Ogwr i Draeth Mawr, yn ffurfio
rhan o Lwybr Arfordir Cymru a bellach mae’n llwybr troed swyddogol,
oherwydd mynediad anffurfiol yn unig oedd iddo yn y gorffennol.
Mae cytundeb rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Cwmni Ystadau Dunraven
ac Ymddiriedolwyr Ystadau Dunraven wedi sicrhau mynediad cyhoeddus
ar hyd yr arfordir dramatig mewn pryd i agoriad swyddogol Llwybr
Arfordir Cymru ar 5 Mai.
Mae creu’r Llwybr yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru a
bydd y llwybr yn ymestyn am 870 milltir (1,400km), o ffin Cymru,
ger Caer yn y gogledd, i Gas-gwent yn y de.
Yn ogystal, mae ffurfioli’r llwybr wedi galluogi gwaith pwysig i
gael ei gwblhau a gwelliannau sylweddol ledled y dyffryn hyd at Gwm
Mawr, gan gynnwys gosod clwydi ac arwyddion ar hyd y llwybr.
Cyhoeddwyd llwybr newydd ym Mae Ffynnon y Santes Fair hefyd, a
fydd yn creu’r ddolen olaf yn y llwybr ger Larnog.
Dywedodd Gwyn Teague, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor
Bro Morgannwg: “Ffurfioli’r llwybr yw diwedd y gwaith a ddechreuodd
yn 2007. Rydym wedi gweithio’n agos â Chwmni Ystadau Dunraven ac
Ymddiriedolwyr Ystadau Dunraven ac rydym yn falch iawn i gyhoeddi’r
cytundeb hwn.
“Mae’r llwybr cyhoeddus newydd yn cynrychioli ychwanegiad mawr i
rwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ym Mro Morgannwg a bydd cerddwyr
a’r gymuned leol yn elwa ohono.”
Dywedodd Julian Golunski, asiant tir ac ymddiriedolwr Ystadau
Dunraven: “Mae’r teulu a’r ystâd wedi croesawu prosiect Arfordir
Treftadaeth Morgannwg ers y 1970au ac rydym yn hynod falch o
ddarparu’r mynediad hwn.
“Mae’r llwybr troed wedi cael ei ddefnyddio ers dros 30 o
flynyddoedd yn anffurfiol, ond mae’r cytundeb hwn yn sicrhau bod y
llwybr yn cael ei gydnabod fel llwybr cyhoeddus ac mae’n bleser
darparu mynediad i’r darn trawiadol hwn o’r arfordir.”
Datblygwyd Llwybr Arfordir Cymru gan Lywodraeth Cymru mewn
partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), un ar bymtheg o
awdurdodau lleol a dau barc cenedlaethol.
Yn ogystal â chymorth ariannol gwerth oddeutu £2 miliwn y
flwyddyn gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau arfordirol lleol, mae
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi dyrannu’n agos at £4 miliwn
dros bedair blynedd er mwyn cefnogi’r prosiect.
Diwedd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Broadley, Quadrant, ar
02920 694888 neu ebost: luke.broadley @quadrant.co
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
- Bydd Llwybr Arfordir Cymru, sef 870 milltir (1,400km) o hyd, a
fydd yn agor ar 5 Mai 2012, yn arwain o gyrion Caer yn y gogledd i
Gas-gwent yn y de.
- Mae creu’r Llwybr yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru –
gyda’r nod o ddod â budd economaidd i ardaloedd arfordirol ac annog
ffyrdd o fyw egnïol. Mae gan y Llwybr rywbeth i’w gynnig i bawb –
o’r rhai sy’n edrych am dro byr i’r rhai sy’n ymgymryd â’r llwybr
cyfan mewn un daith, ac mae’n rhoi mynediad i nifer o weithgareddau
hamdden.
- Caiff gwelliannau pellach eu gwneud i’r llwybr, o ran aliniad,
seilwaith a gwybodaeth, y tu hwnt i’r dyddiad agor.
- Caiff cyflawni’r prosiect ei gydlynu gan Gyngor Cefn Gwlad
Cymru a chaiff ei gyflawni ar lawr gwlad gan yr awdurdodau lleol y
mae’r llwybr yn mynd drwyddynt. Daw’r arian o’r Undeb Ewropeaidd
(cyfanswm o tua £4 miliwn), Llywodraeth Cymru (tua £2 filiwn y
flwyddyn) a’r awdurdodau lleol.