Gweithdy yn datgelu mwy am ddiet y dyfrgi!
Cadwraeth mamaliaid trwy arloesi a
gwirfoddoli.
Bu grŵp o wirfoddolwyr wrthi'n brysur yn ceisio dysgu mwy am yr hyn
mae dyfrgwn yn ei fwyta yng ngogledd Cymru - mewn gweithdy arbennig
penwythnos diwethaf (18/19 Chwefror).
dyfrgi, Llun ⓗCCGC
Yn y gweithdy, a drefnwyd gan y prosiect Mamaliaid mewn
Amgylchedd Cynaliadwy yng Ngerddi Botaneg Treborth, bu 40 o
wirfoddolwyr yn dyrannu baw dyfrgwn er mwyn gweld beth oedd ynddo.
Yn y baw, fe wnaethon nhw ddarganfod gweddillion llyswennod, pysgod
morol a dŵr croyw, crancod, amffibiaid a hyd yn oed adar a llygod -
mwy na 23 o rywogaethau ysglyfaeth yn gyfan gwbl.
Casglwyd y baw gan wirfoddolwyr y llynedd ar hyd arfordir
gogledd Cymru ac yn ardal Waterford yn Iwerddon. Bu'r ecolegydd
mamaliaid Rob Strachan yn helpu'r gwirfoddolwyr i adnabod esgyrn
pysgod, safnau a hyd yn oed dannedd mamaliaid wrth iddyn nhw
ddatgymalu baw'r dyfrgwn.
Mae'r prosiect yn rhan o brosiect wedi'i ariannu gan y GE dan
arweiniad Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt
Vincent i ganfod mwy am famaliaid a'r hyn maen nhw ei angen er mwyn
ffynnu mewn amgylchedd cynaliadwy.
Dywedodd Ceri Morris, Swyddog Prosiect Cyngor Cefn Gwlad Cymru a
threfnydd y gweithdy: "Gall dadansoddi diet y dyfrgi ddatgelu
gwybodaeth werthfawr nid yn unig am yr hyn maen nhw'n ei fwyta, ond
hefyd lle maen nhw'n bwydo a pha mor bell maen nhw'n crwydro. Fe
wnaethon ni ganfod tystiolaeth o grancod mewn llawer o'r baw, a
chredir mai dyna hoff fwyd dyfrgwn ifanc - felly gallai hyn awgrymu
safleoedd magu ger ein harfordiroedd."
"Gallwn hefyd ganfod DNA anifeiliaid unigol o'r baw - fydd yn
ein helpu i ddysgu mwy am faint o ddyfrgwn sydd yna, a fydd yn ein
harwain at gael gwell dealltwriaeth o'u bywydau yn y dyfodol."
Dywedodd Rob Jones, un gwirfoddolwr oedd wedi teithio o ardal
Conwy i gymryd rhan: "Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod dyfrgwn yn
ymyl lle rydw i'n byw. Buom yn dadansoddi baw dyfrgwn a ganfuwyd yn
yr afon sy’n llifo ar hyd gwaelod fy ngardd! Gan fy mod i'n gwybod
yn awr eu bod nhw yno, a beth ddylwn i chwilio amdano, fe fydda i'n
cadw llygaid amdanyn nhw yn y dyfodol!"
Ychwanegodd Ceri Morris: "Mae'n wych gweld cymaint o bobl yn
awyddus i ddysgu mwy am ddyfrgwn, er gwaethaf y ffaith bod yn rhaid
iddyn nhw chwilota drwy eu baw er mwyn gwneud hynny! Mae rhai pobl
wedi dweud wrtha i eu bod wedi teithio mor bell ag ucheldiroedd yr
Alban i weld dyfrgwn yn y gorffennol, heb sylweddoli’n llawn fod y
creaduriaid yn byw ar ein stepen drws!"
Dyfrgwn - cipolwg:
- Roedd dyfrgwn ar un adeg yn gyffredin iawn ledled Prydain, ond
gwelwyd gostyngiad dramatig yn eu niferoedd yn 1950au - 1970au
oherwydd llygredd gan blaleiddiaid.
- Ers i'r plaleiddiaid gael eu gwahardd, mae afonydd Cymru yn
iachach yn awr nag y maen nhw wedi bod ers 20 mlynedd ac mae
dyfrgwn i'w cael yn rhan fwyaf y wlad erbyn hyn.
- Pysgod yw rhan fwyaf diet y dyfrgi (fel arfer 75-95%) ond maen
nhw hefyd yn bwyta amffibiaid, cimwch yr afon, adar afon a
mamaliaid bach.
- Mae dyfrgwn yn byw ar hyd afonydd, llynoedd ac arfordiroedd
morol, ac ar adegau, mewn ardaloedd corsiog sydd gryn bellter o
ddŵr agored. Mae dyfrgwn sy'n byw ar yr arfordir angen dŵr croyw i
olchi halen o'u ffwr, neu fe fydd yn colli'r gallu i'w cadw'n
gynnes.
- Gall dyfrgwn deithio dros ardaloedd helaeth, mae rhai yn
crwydro 20km neu fwy ar hyd afonydd.
- Mae dyfrgwn yn diriogaethol - maen nhw'n gollwng eu baw mewn
mannau amlwg er mwyn dynodi eu tiriogaeth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y prosiect www.miseproject.ie
neu ewch i 'Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MISE)' ar
Facebook. Os hoffech gymryd rhan mewn digwyddiad gwirfoddoli
cysylltwch â Ceri Morris c.morris@ccw.gov.uk Ffôn: 07881850735 neu
Jenny MacPherson : jennymacpherson@vwt.org.uk Ffôn: 07584
415760.
Diwedd.
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
Am ragor o wybodaeth am y datganiad hwn i'r wasg cysylltwch â
Helen Evans, Swyddfa'r Wasg Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar 07717225589
neu Bran Devey, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ar 02920 772 403/
07747767443.
Rhagor o fanylion: Casglwyd y baw dyfrgwn o
nifer o safleoedd ar hyd arfordir gogledd Cymru, o Queensferry i
Sir y Fflint, Rhyl, Llanddulas, Conwy, o gwmpas Môn i gyd ac ar hyd
arfordir Llŷn, yn ystod arolygon a drefnwyd gan Grwp Mamaliaid
Eryri, Menter Môn, a chynghorau sir y Fflint, Dinbych a Conwy.
Yn lansiad Prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy,
dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd,
Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: "Mae cefnogi bioamrywiaeth yn
rhan allweddol o'n hymrwymiad fel Llywodraeth i ddatblygu
cynaliadwy. Rwyf yn falch y bydd y cynllun hwn sy'n derbyn
cefnogaeth gan y GE yn sicrhau bod partneriaid a chymunedau lleol
yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn helpu hyrwyddo bywyd
gwyllt a chynefinoedd sydd yn wynebu bygythiad gan weithgaredd pobl
a newid hinsawdd."
Cefndir
- Caiff y prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy ei
gyflawni ar y cyd gan y Cyngor Cefn Gwlad, Ymddiriedolaeth Bywyd
Gwyllt Vincent, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yng Nghymru, a’r
Waterford Institute of Technology, Cyngor Sir Waterford a’r
Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Data Bioamrywiaeth yn Iwerddon.
Rydym yn gallu rhoi’r prosiect ar waith yn sgil cymorth ariannol o
£800,000 gan raglen drawsffiniol Cymru/Iwerddon.
- Mae’r prosiect yn dilyn cyhoeddi fframwaith Llywodraeth Cymru
ar gyfer gwarchod amgylchedd naturiol Cymru – ‘Cymru Fyw’ – a
lansiwyd y llynedd. Pwrpas y fframwaith yw rhoi stop ar golli
bioamrywiaeth trwy reoli amgylchedd Cymru mewn modd mwy cyfannol a
chydgysylltiedig.
- Caiff rhaglen drawsffiniol Cymru/Iwerddon ei harwain gan
Gynulliad Rhanbarthol De a Dwyrain Iwerddon (SERA), ar y cyd â
Llywodraeth Cymru. Caiff ei chefnogi gan Gronfa Datblygu
Rhanbarthol Ewrop er mwyn datblygu prosiectau ar y cyd i hybu
sgiliau a thwf economaidd, yn ogystal â gwarchod yr
amgylchedd.
Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Cyngor Cefn Gwlad, ac
mae’n gweithio i greu Cymru well lle mae pawb yn trysori ein
hamgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth
am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk.