Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd Gwarchod gwlyptiroedd – un ateb i
broblem newid hinsawdd
Dydd Mawrth 2 Chwefror 2010
Gwlyptiroedd – dyma gynefinoedd sydd wedi cael
eu hesgeuluso a’u hanwybyddu ers blynyddoedd lawer. Ond nhw sy’n
cael sylw arbennig heddiw, a hithau’n Ddiwrnod Gwlyptiroedd y
Byd.
Yn wir, mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn gweithio’n agos gyda miloedd
o dirfeddianwyr a sefydliadau eraill trwy Gymru er mwyn rhoi’r
gofal dwys angenrheidiol i wlyptiroedd Cymru.
A chan ein bod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd gwlyptiroedd
wrth daclo newid hinsawdd, mae’r ffordd y cânt eu gwarchod a’u
rheoli yn bwysicach nag erioed o’r blaen.
Yng Nghymru mae nifer o wlyptiroedd gwahanol i’w cael, yn
cynnwys corsydd calchog, corsydd arferol, corsydd pori, gwernydd a
glaswelltiroedd corsiog, heb anghofio llynnoedd, pyllau ac afonydd.
Dim ond ar rai adegau o’r flwyddyn y bydd dŵr i’w gael ar rai o’r
rhain, er enghraifft glaswelltiroedd corsiog. Ond mae eraill, fel
gwernydd mawn, yn wlyb drwy gydol y flwyddyn. Heb inni weithredu,
fodd bynnag, fe allai pob un o’r rhain fod yn y fantol.
Mae’r posibilrwydd y byddan ni’n cael hafau sychach yn golygu
bod rheoli gwlyptiroedd, er mwyn sicrhau eu dyfodol, yn gwbl
hanfodol – nid yn unig i’r holl fywyd gwyllt sy’n byw ynddyn nhw,
ond hefyd i ansawdd bywyd pob un ohonom. Pan fyddan nhw ar eu
gorau, gall gwlyptiroedd ddal a storio llawer iawn o garbon –
carbon a fyddai, fel arall, yn cael ei ryddhau i afonydd ac i’r
atmosffer. Golyga hyn fod gan wlyptiroedd ran allweddol i’w chwarae
wrth daclo newid hinsawdd. Hefyd, maen nhw’n helpu i buro dŵr yfed,
ac fe allan nhw helpu i reoli llifogydd. Mae gwlyptiroedd ein gwlad
– yn arbennig y gorgorsydd sy’n ymestyn ar hyd asgwrn cefn
ucheldiroedd Cymru – yn llefydd agored a gwyllt, ac maen nhw’n
cyfrannu llawer at gymeriad y dirwedd.
Yn ôl Dr Peter Jones, Ecolegydd Mawndiroedd y Cyngor Cefn Gwlad:
“Mae gennym ni lawer iawn o waith o’n blaenau er mwyn gwarchod ac
adfer ein gwlyptiroedd. Ond rydw i’n teimlo’n ffyddiog – mae yna
obaith i wlyptiroedd. Mae gwaith cadwraethol gwych yn cael ei wneud
– gan gynnwys prosiect sy’n werth £3.5m i adfer corsydd Môn a Llŷn,
yn ogystal â gwaith ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, er
enghraifft Cors Caron a Chors Fochno yng Ngheredigion, Cors Crymlyn
yn Abertawe a Fenn’s and Whixall Mosses ger Wrecsam.
“Mae angen inni wneud llawer mwy; ond trwy weithio ar y cyd, a
chyda help tirfeddianwyr, fe fydd modd i wlyptiroedd ddod yn hafan
i fywyd gwyllt unwaith eto, ac yn llefydd gwych i fynd am dro. Ac
yn bwysicach na dim, fe fydd modd iddyn nhw chwarae rhan bwysig
unwaith eto yn y dasg o gynnal ansawdd ein bywydau – storio carbon,
puro dŵr a helpu i atal llifogydd mewn ardaloedd eraill.”
Caiff nifer o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n wlyptiroedd
eu rheoli gan y Cyngor Cefn Gwlad, a hynny er mwyn adfer a gwarchod
eu nodweddion naturiol. Gallwch ddefnyddio’r llwybrau pren pwrpasol
i deithio ar hyd nifer o’r safleoedd yma – yn wir, maen nhw’n
llefydd gwych i ymweld â nhw.
Gwlyptiroedd a llên gwerin – oeddech chi’n gwybod?
Yn hanesyddol, roedd pobl yn credu bod gwlyptiroedd yn gyswllt o
ryw fath rhwng y byd yma a’r byd ysbrydol. Yn wir, cafodd rhoddion
lu eu gadael ar safleoedd o’r fath – gan gynnwys trysor yn Llyn
Cerrig Bach, Ynys Môn, tarian efydd ysblennydd yn Rhos Rydd, a
ffigyryn enigmatig o ddyn yn Ystrad Fflur, Ceredigion. Yn ôl Dr
Jones: “Heddiw, mae’r rhoddion yma’n dod ar ffurf y cyfraniad a wna
gwlyptiroedd at ansawdd ein bywydau.”
Diwedd
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, ffoniwch Helen Evans,
Swyddog y Wasg, 01248 387377 / 07717225589 neu Brân Devey 02920
772403 / 07747767443, bran.devey@ccw.gov.uk.
Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r Cyngor Cefn
Gwlad, ac mae’n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori
ein hamgylchedd naturiol acyn ei warchod. Gellir cael mwy o
wybodaeth am ein gwaith ar www.ccgc.gov.uk