Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010
(Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol inni
gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol erbyn 2 Ebrill 2012.
Mae ein cynllun yn casglu ac yn adeiladu ar y gweithgareddau
rydym wedi bod yn mynd i’r afael â nhw yn ystod y pedair blynedd
diwethaf, fel y nodir yn y Cynllun Cydraddoldeb a’r Cynllun
Gweithredu a gyhoeddwyd gennym yn barod. Roedd y rhain yn ymdrin â
chydraddoldebau a chyfiawnder cymdeithasol.
Yn benodol, mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn nodi’n
glir beth yn union yw ein hamcanion strategol parthed cydraddoldeb
a sut rydym yn bwriadu eu cyflawni. Ymhellach, mae’n disgrifio sut
rydym yn monitro’r hyn a wnawn a beth yn union yw’r effeithiau, gan
adrodd hefyd ar y modd rydym wedi newid ac addasu ein dulliau er
mwyn rhoi ystyriaeth i Reoliadau Cydraddoldeb Cymru.
Yn ein tyb ni, mae’r cynllun hwn yn bodloni anghenion y
rheoliadau, a bydd yn sicrhau ein bod yn parhau i wella ein
hymdrechion yn y maes, gan gyflawni ein dyletswydd cydraddoldeb
gyffredinol a rhagori ar hyn pan fo modd.
Os byddwch angen gwybodaeth mewn fformat arall – er enghraifft
fformat hawdd ei ddarllen, print mawr, Braille, tâp clywedol – neu
os hoffech i’r cynllun gael ei esbonio ichi yn eich iaith eich hun,
cysylltwch â’r canlynol: Nia Blackwell i’r cyfeiriad uchod neu trwy
ebost i n.blackwell@ccw.gov.uk