Ein Polisïau
Gallwch ddweud llawer am unrhyw gorff trwy
edrych ar ei bolisïau. Yn y Cyngor Cefn Gwlad, rydym yn credu mewn
gofalu am yr amgylchedd, am ein cwsmeriaid ac am ein gilydd, gan
weithio gyda’n gilydd a gyda’n partneriaid i gyrraedd ein
hamcanion. Mae ein polisïau yn adlewyrchu’r blaenoriaethau hyn.
Yn y rhan hon o’n gwefan, rydym yn tynnu sylw at rai o’r
polisïau sy’n bwysig i ni ac i chithau.
Er enghraifft, cewch weld datganiad o’n gwerthoedd a disgrifiad
o’r ffordd y byddwn yn ceisio cadw atyn nhw. Gallwch ddysgu am ein
hagwedd at amrywiaeth a chydraddoldeb, tuag at gefnogi’r iaith
Gymraeg a rheoli’r Cyngor ei hun mewn ffordd sy’n parchu’r
amgylchedd. Mae yma wybodaeth hefyd am bolisïau sy’n effeithio
arnoch chi, er enghraifft yr hawl i wybodaeth a gwarchod data.
Adnoddau...