Un wlad, dwy iaith...
Yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru rydym yn
gweithio drwy gyfrwng dwy iaith - Cymraeg a Saesneg. Mae gallu ein
staff i ysgrifennu a siarad Cymraeg yn amrywio ond o ran cwrteisi
i’n cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg, disgwyliwn i bob aelod o’n
staff ynganu enwau llefydd yn gywir a defnyddio cyfarchion ac
ymatebion syml, megis Bore Da, ’Pnawn Da, Diolch ayb.
Rhoddwn gryn bwyslais ar allu defnyddio iaith o’ch dewis, pa un
ai eich bod yn gwsmer neu’n aelod o staff. Felly, cynigiwn
wasanaeth dwyieithog i’n cwsmeriaid a byddwn bob amser yn ymateb i
chi yn y Gymraeg neu Saesneg yn ôl eich dewis. Rydym yn gwneud cryn
dipyn o’n gwaith yn ardaloedd gwledig Cymru lle mae’r mwyafrif o
bobl yn siarad Cymraeg ac felly mae’n bwysig ein bod yn gallu
cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
O ran ein staff, rydym yn eu galluogi i ddefnyddio’r iaith o’u
dewis yn eu gwaith bob dydd gymaint â phosibl. Rydym yn darparu
ystod o hyfforddiant ar ysgrifennu a siarad Cymraeg gan annog staff
sy’n dysgu Cymraeg i’w defnyddio gymaint ag sy’n bosibl er mwyn
iddynt deimlo’n fwy cyfforddus a hyderus yn y Gymraeg. Mae gennym
bolisi dwyieithrwydd mewnol sy’n hybu defnyddio’r Gymraeg a’r
Saesneg fel ei gilydd yn y gweithle ac mae’n rhoi arweiniad i staff
ar sut i roi hyn ar waith.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a gwarchod yr iaith Gymraeg fel
rhan hanfodol o’n treftadaeth Gymreig. Adlewyrchir hyn yn ein
Cynllun Iaith Gymraeg (sy’n ofynnol yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg)
sy’n dangos ein gwasanaeth dwyieithog ar y wefan hon.