Anne-Marie yn cyrraedd tirnod enwog yng ngogledd Cymru fel rhan
o’i her rhedeg epig o amgylch Cymru
Mae disgwyl i’r athletwraig, sy’n anelu at fod
y person cyntaf i redeg hyd cyfan Llwybr Arfordir Cymru ar ran
elusen, gyrraedd Pont Menai yn ystod y dyddiau nesaf.
Anne-Marie ‘Arry’ Beresford Webb, gan ©CCW
Bydd hi’n croesi’r bont ar ddydd Mercher 18 Ebrill a dydd Llun
23 Ebrill wrth iddi redeg ar hyd llwybr arfordir Ynys Môn fel rhan
o’i her enfawr.
Bydd Anne-Marie ‘Arry’ Beresford Webb yn ymgymryd â her 1,027
milltir o amgylch perimedr Cymru, a fydd yn mynd â hi ar hyd Llwybr
Arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd, sef 870 milltir, yn ogystal â
Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, cyn dychwelyd i’w man cychwyn ym
Mae Caerdydd erbyn lansiad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru ar 5
Mai.
Ers dechrau ym Mae Caerdydd ar ddydd Sadwrn 24 Mawrth, mae Arry
wedi rhedeg oddeutu 600 milltir hyd yn hyn - sydd gyfwerth â 23
marathon. Mae nifer o ffrindiau a chefnogwyr wedi ymuno â hi ar ei
thaith, gan fynd heibio rhai o olygfeydd mwyaf godidog Cymru ar hyd
y ffordd.
Bydd hi’n rhedeg ar draws pont eiconing Pont Menai rhwng 11.00am
a 3.00pm ar 18 Ebrill, ac eto ar 23 Ebrill. Gofynnir i bobl leol ac
ymwelwyr ymuno â chydweithwyr Arry o Gyngor Cefn Gwald Cymru i’w
chefnogi hi ar y ddau ddiwrnod.
Ar ôl cwblhau ei chylchdaith o amgylch Ynys Môn, bydd Arry’n
rhedeg ar hyd arfordir gogledd Cymru at y ffin ger Caer, cyn troi
tua’r de a dychwelyd i dde Cymru ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd
Offa. Bydd hi’n ailymuno â Llwybr Arfordir Cymru yng Nghas-gwent,
cyn cwblhau ei her ar hyd arfordir de ddwyrain Cymru.
Pan fydd hi’n dychwelyd i’w man cychwyn 42 diwrnod yn
ddiweddarach, bydd Arry wedi cwblhau’r hyn sy’n cyfateb i 39
marathon er budd Apêl Stepping Stones Canolfan Ganser Felindre a
Gozo CCU Foundation. Am fwy o fanylion ewch i
www.dragonrun1027.co.uk neu dilynwch hi ar Twitter
@dragonrun1027.
Mae Arry’n cydnabod maint yr her, ond mae hi’n edrych ymlaen at
barhau gyda’i thaith ar hyd arfordir Cymru:
“Mae’r her yn rhoi cyfle i mi na fydd llawer yn ei gael mewn
oes, sef gweld holl arfordir hardd fy mamwlad,” meddai.
“Bydd Llwybr Arfordir Cymru’n rhoi Cymru’n gadarn ar y map
rhyngwladol, a gobeithio y bydd yn annog pobl i fynd allan a phrofi
harddwch Cymru ar lwybr arfordirol cenedlaethol cyntaf y byd.
“Bydd cwblhau’r dasg hon ar 5 Mai yn brawf eithafol o fy nycnwch
corfforol a meddyliol, ac yn y pen draw, dyfalbarhad a
phenderfyniad fydd yn mynd â mi at y diwedd.
“Mae’r ddwy elusen yn agos iawn at fy nghalon ac rwy’n
benderfynol o godi £25,000 ar eu cyfer a chodi ymwybyddiaeth
ynghylch y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.”
Wrth iddi ddychwelyd, sydd wedi’i amseru i gyd-fynd â’r lansiad,
bydd yn cyflwyno batwn symbolaidd i Dave Quarrell a fydd yn cychwyn
ar ei antur elusennol ei hun ar y diwrnod hwnnw.
Bydd Dave yn cerdded Llwybr Arfordir Cymru fel rhan o’i
ymdrechion i gerdded o gwmpas Cymru gyfan er cof am ei ddiweddar
dad a fu’n ymwneud â datblygu’r syniad o Lwybr Arfordir Cymru yn y
dyddiau cynnar. Bydd Dave yn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser
Cymru http://www.walkwales1027.com.
Diwedd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Broadley, Quadrant, ar
02920 694888 neu ebost: luke.broadley @quadrant.co
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION
- Bydd Llwybr Arfordir Cymru, sef 870 milltir (1,400km) o hyd, a
fydd yn agor ar 5 Mai 2012, yn arwain o gyrion Caer yn y gogledd i
Gas-gwent yn y de.
- Mae creu’r Llwybr yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru –
gyda’r nod o ddod â budd economaidd i ardaloedd arfordirol ac annog
ffyrdd o fyw egnïol. Mae gan y Llwybr rywbeth i’w gynnig i bawb –
o’r rhai sy’n edrych am dro byr i’r rhai sy’n ymgymryd â’r llwybr
cyfan mewn un daith, ac mae’n rhoi mynediad i nifer o weithgareddau
hamdden.
- Caiff gwelliannau pellach eu gwneud i’r llwybr, o ran aliniad,
seilwaith a gwybodaeth, y tu hwnt i’r dyddiad agor.`
- Caiff cyflawni’r prosiect ei gydlynu gan Gyngor Cefn Gwlad
Cymru a chaiff ei gyflawni ar lawr gwlad gan yr awdurdodau lleol y
mae’r llwybr yn mynd drwyddynt. Daw’r arian o’r Undeb Ewropeaidd
(cyfanswm o tua £4 miliwn), Llywodraeth Cymru (tua £2 filiwn y
flwyddyn) a’r awdurdodau lleol.