Mae Cymunedau a Natur yn un o blith nifer o brosiectau strategol
sy’n gweithredu dan Flaenoriaeth 4 Thema 3 ‘Amgylchedd ar gyfer
Twf’ Rhaglen Gydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd 2007 – 2013.
Cliciwch ar y cysylltau isod i gael gwybodaeth am y prosiectau
eraill:
Cadw –Twristiaeth Treftadaeth
Bydd y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth gwerth £19m yn gwneud y
mwyaf o werth economaidd treftadaeth drwy gynyddu nifer, hyd a
gwerth ymweliadau â Chymru.
Croeso Cymru – Twristiaeth Arfordirol
a Thwristiaeth Gynaliadwy
Nod y prosiect twristiaeth arfordirol fydd gweithredu prif elfennau
cymwys y strategaeth twristiaeth arfordirol.
Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Mae prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd am ddatblygu, ehangu a
gwella potensial twristiaeth unigryw cymoedd de Cymru.
Blaenau’r Cymoedd
Bydd prosiect Twristiaeth Blaenau’r Cymoedd yn sefydlu’r ardal fel
cyrchfan llwyddiannus i ymwelwyr dydd, yn cael y gwerth economaidd
uchaf o amrywiaeth o safleoedd twristiaeth, ac felly’n cyfrannu at
ddyfodol cynaliadwy i’r cymunedau sy’n eu cynnal.