Tir mynediad agored
Mae gan bawb hawl i fynd allan i fwynhau’r
wlad. Ym mis Mai 2005 daeth Deddf Cefn Gwald a Hawliau Tramwy
(CROW) i rym gan nodi’n glir pob darn o dir mynediad agored yng
Nghymru a thynnu sylw at y cyfleon i fwynhau cefn gwlad...
I gyd fynd â deddf CROW, bu CCG yn gweithio
gyda thirfeddianwyr, tenantiaid a grwpiau diddordeb eraill er mwyn
cynhyrchu mapiau cywir o bob darn o dir mynediad agored.
Mae hyn wedi sicrhau fod pawb yn deall eu hawliau a’u
dyletswyddau tuag at y dirwedd – tirfeddianwyr ac ymwelwyr fel ei
gilydd.

Yn wir, mae pobl yn awr yn mwynhau mwy o gyfleon nag erioed o’r
blaen i ymweld â chefn gwlad. Gall cerddwyr profiadol fod yn hollol
siŵr o’u hawliau mynediad erbyn hyn. Er enghraifft ar dir nad
oeddynt yn gwbl siŵr o’u hawliau cyn hynny.
Mae’r ddeddf hefyd yn manylu ynglŷn â’r cyfyngiadau sy’n gallu
dod i rym o bryd i’w gilydd, er budd y dirwedd a’r cyhoedd yn
gyffredinol.
Yn amlwg, mae gan bobl sy’n ymweld â thir mynediad agored hawl i
barchu’r amgylchedd, y bobl eraill sy’n defnyddio’r tir a’r
cymunedau lleol sy’n rhan o gefn gwlad.
Ewch i’n gwefan Côd Cefn Gwlad am fwy o
fanylion.